Y Frenhines yn anrhydeddu GIG Cymru
NHS Wales awarded highest honour by the Queen
Heddiw (12 Gorffennaf), cyflwynodd y Frenhines Groes y Brenin Siôr i Brif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget a’r Ymgynghorydd Gofal Dwys Dr Ami Jones mewn seremoni yng Nghastell Windsor.
Roedden nhw’n derbyn y wobr ar ran holl weithwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – nyrsys, meddygon, glanhawyr, parafeddygon, porthorion, therapyddion – i gydnabod eu dewrder, eu tosturi a’u medr.
Roedd Tywysog Cymru yn bresennol gyda’r Frenhines ar gyfer y cyflwyniad.
Dywedodd Judith Paget:
“Mae’n fraint imi ymuno â Dr Jones i dderbyn Croes y Brenin Siôr ar ran y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Dyma’r fedal uchaf am ddewrder sy’n cael ei rhoi i sifiliaid yn y Deyrnas Unedig. Mae’r wobr yn cydnabod gwasanaeth di-baid y Gwasanaeth Iechyd ers ei sefydlu 74 mlynedd yn ôl, gan gynnwys holl ddewrder, ymroddiad a gofal staff yn ystod y pandemig.
“Fe welais i â’m llygaid fy hun ddewrder staff yn gofalu am ein hanwyliaid. Nhw yw anadl einioes y Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn anrhydedd mawr ac yn ddiwrnod arbennig i bawb sy’n gweithio ac sydd wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”
Dywedodd Dr Ami Jones, Ymgynghorydd Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Rwy’n eithriadol o falch o ymuno â Judith i gynrychioli holl staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i dderbyn Croes y Brenin Siôr.
“Fel rhywun sy’n gwasanaethu yn y Fyddin, rwy’n gwybod mai dim ond y gorau sy’n cael y fedal hon ac mae ein staff iechyd rhagorol yn ei llawn haeddu.
“Ni fyddai ein staff erioed wedi dychmygu y byddai pandemig mor ofnadwy yn digwydd yn ystod ein bywydau ni, ond fe roeson nhw eu hofnau eu hunain o’r neilltu i roi gofal rhagorol i’w cleifion a dod o hyd i atebion i’r problemau digynsail a oedd yn eu hwynebu bob dydd.”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Dyma achlysur y gall holl staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ymfalchïo ynddo, a hwythau wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau iechyd dan yr amgylchiadau anoddaf.
“Ers geni’r Gwasanaeth Iechyd yn Nhredegar 74 mlynedd yn ôl, mae staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi bod yno bob amser i roi triniaeth, gofal a chymorth i ni a’n teuluoedd pan fo arnon ni eu hangen fwyaf.
“Yn wyneb y bygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd yn ein hoes ni ar ddechrau’r pandemig, fe wnaethon nhw gamu ymlaen gyda dewrder ac arbenigedd di-ail ac rwy’n falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod drwy ddyfarnu Croes y Brenin Siôr iddyn nhw.”