English icon English
library -4

Y Gronfa Adferiad Diwylliannol – Yn agor ar gyfer ceisiadau

Cultural Recovery Fund – Open for applications

O ddydd Mercher [16 Medi], bydd cyrff a busnesau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn cael gwneud cais am gymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, gwerth £53 miliwn

Bydd canolfannau cynnal cerddoriaeth; stiwdios recordio a rihyrsio; cyrff treftadaeth ac atyniadau hanesyddol, amgueddfeydd ac archifdai; llyfrgelloedd; digwyddiadau a’u cyflenwyr technegol; sinemâu annibynnol a’r sector cyhoeddi i gyd yn gallu gwneud cais am gyfran o £18.5 miliwn.

Mae Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi bod ar gael ers 1 Medi.

Bydd grant (na fydd angen ei dalu’n ôl) o hyd at £150,00 (ar gyfer hyd at 100% o’r costau cymwys) ar gael i bob corff trwy ddau bwynt ymgeisio:

  • O dan £10,000: proses gyflym ar gyfer cyrff bach, yn seiliedig ar y costau cymwys
  • Rhwng £10,000 a £150,000: proses fanylach, yn seiliedig ar y costau cymwys.

Bydd y Gronfa’n cau ar gyfer ceisiadau newydd ar 2 Hydref.

Bydd cronfa o £7 miliwn ar gael hefyd i helpu pobl lawrydd yn y sector y mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw.  Bydd y gronfa’n agor i ymgeiswyr ddydd Llun, 5 Hydref.  Gofynnir i unigolion gadarnhau eu bod yn gymwys cyn gwneud cais trwy fynd i Wiriwr Cymhwysedd y Gronfa Adferiad Diwylliannol

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Rydym yn cydnabod yr heriau anferthol a digynsail sy’n wynebu pob agwedd ar fywyd yng Nghymru yn sgil y pandemig, ac rydym yn canmol gwytnwch a chreadigrwydd y sectorau hyn.  Rydym wedi gweithio gyda’r sector i ddarparu’r gronfa. Mae’r gwiriwr cymhwysedd yn golygu ein bod nawr yn gallu dechrau prosesu ceisiadau a gwneud yn siŵr bod ymgeiswyr yn gallu cael yr arian mor gyflym â phosibl.

“Mae’r sector llawrydd yn rhan mor bwysig o economi Cymru – gyda rhyw 12,800 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y sector creadigol, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cynnig eu helpu – ac mae hyn yn unigryw i Gymru – trwy’r gronfa i weithwyr llawrydd.  Mae hyn yn cydnabod cyfraniad yr unigolion at y sector creadigol yng Nghymru.”

Mae elfen ar wahân o’r Gronfa, gwerth £27.5 miliwn, yn cael ei darparu trwy Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi theatrau ac orielau.  Cafodd y rhan hon o’r gronfa ei lansio ar 17 Awst ac mae hi bellach ar gau i geisiadau. Nid yw ymgeiswyr yn cael ymgeisio am elfennau Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.