Y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi help hanfodol i fusnes technoleg byd-eang yng Nghonwy
Economic Resilience Fund crucial in supporting global technology business in Conwy
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates wedi cyhoeddi bod Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help hanfodol i fusnes technoleg rhyngwladol o sir Conwy.
Mae Robertson Geologging Limited o Ddeganwy wedi cael £51,000 o arian yr ERF i ddiogelu 40 o swyddi yn y cwmni a’i amddiffyn rhag effeithiau difrifol pandemig y coronafeirws.
Mae’r ERF, sy’n rhan o becyn gwerth £1.7bn gan Lywodraeth Cymru, wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru gan ategu’r help sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae 12,500 o fusnesau wedi manteisio ar ragor na £280m o help ariannol sydd wedi diogelu rhagor na 75,000 o swyddi yng Nghymru.
Mae Robertson Geologging, sy’n cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch a gwasanaethau logio geoffisegol ar gyfer diwydiannau amgylcheddol, geodechnegol, daeareg peirianyddol, mwyngloddio, glo ac olew a nwy ledled y byd, wedi defnyddio’r cymorth i gadw ymlaen i weithio trwy’r pandemig.
Dywedodd Simon Garantini, Rheolwr Gyfarwyddwr Robertson Geologging Limited: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r help rydym wedi’i gael trwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Cawsom arian mawr ei angen trwyddi pan roedd y busnes cyfan bron wedi dod i stop oherwydd y pandemig.
“Rydym wedi defnyddio’r arian i dalu’n costau sefydlog, a’r costau gweithredu uwch oherwydd y coronafeirws. Helpodd ni i newid o geisio rheoli argyfwng i ganolbwyntio ar ein gwaith craidd o gynhyrchu ac allforio’n cynnyrch a’n gwasanaethau ledled y byd.
“Drwyddo, rydym wedi gallu amddiffyn swyddi 40 o’n gweithwyr, gyda phawb yn gweithio gydol yr argyfwng.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates: “Mae hi’n dal i fod yn gyfnod economaidd hynod anodd ond rydym wedi bod yn glir o ddechrau’r argyfwng ein bod am i fusnesau llewyrchus o ansawdd da barhau i fod yn fusnesau llewyrchus o ansawdd da ar ôl diwedd y pandemig.
“Mae Robertson Geologging wedi gweithio gydol y pandemig ac rwy’n falch o fod wedi gallu rhoi’r cymorth ariannol oedd yn allweddol iddynt allu gwneud hynny. Rydym wedi rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt, pan oedd ei angen arnynt fwyaf, gan helpu i ddiogelu swyddi lleol.
“Rydym wedi dylunio’r Gronfa Cadernid Economaidd a’i £500m yn fwriadol i lenwi’r bylchau nad yw pecyn cymorth Llywodraeth y DU yn eu llenwi. Felly, o holl wledydd y DU, Cymru sydd â’r ganran uchaf o fusnesau sydd wedi gwneud cais am gymorth dros gyfnod y coronafeirws. Mae hyn yn brawf bod ein cymorth arbennig ni yn gweithio ac yn cyrraedd busnesau, ac yn diogelu miloedd o swyddi."