English icon English

Gweinidogion yn cyhoeddi Cronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr gwerth £17.7m

Ministers announce £17.7m Spectator Sports Survival Fund

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannu gwerth £17.7miliwn, i helpu chwaraeon gwylwyr sydd wedi dioddef yn ddifrifol oherwydd y pandemig.

Diben y gronfa yw darparu cymorth ariannol ar unwaith i chwaraeon gwylwyr drwy weddill cyfnod y gaeaf er mwyn sicrhau y byddant yn barod ar gyfer dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer rygbi'r undeb, pêl-droed, criced a hoci iâ. Bydd rygbi'r gynghrair, pêl-rwyd a rasio ceffylau yn elwa ar yr arian hwn hefyd. Bydd yn sicrhau bod sefydliadau a chlybiau chwaraeon sydd wedi dioddef effeithiau ariannol oherwydd y cyfyngiadau ar wylwyr mewn digwyddiadau chwaraeon yn gallu goroesi yn y tymor byr i’r tymor canolig.  

Bydd y pecyn cyllid refeniw yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyrff llywodraethu cenedlaethol y campau dan sylw.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Er bod cyfyngiadau ar gefnogwyr mewn digwyddiadau wedi bod yn hanfodol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ac achub bywydau, does dim dwywaith eu bod wedi creu caledi gwirioneddol i lawer o glybiau chwaraeon. Mae llawer ohonyn nhw’n cael cyfran sylweddol o'u hincwm drwy bresenoldeb gwylwyr.

"Mae chwaraeon yn sector pwysig o'n heconomi ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles meddyliol a chorfforol. Mae digwyddiadau chwaraeon yn gyfleoedd pwysig i rannu profiadau, ac yn aml, maen nhw wedi tynnu’n sylw oddi ar y pandemig mewn ffordd dderbyniol iawn. Byddan nhw’n chwarae rhan hanfodol wrth gynnig adferiad ac iachâd inni ar ôl yr argyfwng.

"Rwy'n gwybod y bydd yr arian hwn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r chwaraeon hynny yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yn sgil colli refeniw yn ystod y pandemig, gan helpu i bontio'r bwlch ariannol nes bod gwylwyr yn gallu dychwelyd yn ddiogel."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd ati mewn ffordd gyfrifol, fydd wedi'i thargedu, o fynd i'r afael ag effaith ariannol y pandemig. Mae'r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennym heddiw yn mynd â chyfanswm y cyllid ar gyfer y sector hwn i fwy na £40m ers dechrau'r argyfwng, gan helpu i gynnig sefydlogrwydd yn y tymor hwy i sector sydd wedi dioddef colled ariannol sylweddol.

"Wrth inni edrych ymlaen at ddyddiau gwell, bydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan hanfodol yn ein hadferiad, gan helpu i ddatblygu Cymru iachach a chryfach."