English icon English
IMG 2989-2

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dyblu’r cyllid i gefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru â phecyn £10m

Education Minister Kirsty Williams doubles funding to support Wales’ most disadvantaged learners with £10m package

Heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y caiff mwy na £10m ei ddarparu i ymestyn un o raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru.

Wrth ymweld ag ysgol gynradd Glan Morfa yng Nghaerdydd, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cyllid cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cael ei ddyblu i gynnwys blynyddoedd ychwanegol yn 2020/21, ac y câi telerau’r grant eu hymestyn i’w gwneud yn bosibl prynu gliniaduron a chyfrifiaduron llechen mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.

Bydd y cyllid o £10.3m – cynnydd o £5.1m yn 2019/20 – yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymestyn y cynllun i gefnogi’r rheini ym mlynyddoedd 1, 5, 8, 9 ac 11, ar gyfradd o £125 y dysgwr.

Cyflwynwyd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn 2018, ac mae’n helpu teuluoedd i dalu costau gwisg ysgol a chitiau chwaraeon, yn ogystal â chyfarpar ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys clybiau chwaraeon a thripiau dysgu yn yr awyr agored.

Mae’r cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf i helpu gyda rhai o gostau’r diwrnod ysgol.

I ategu’r cynllun, comisiynodd Llywodraeth Cymru Plant yng Nghymru i lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion a fyddai’n rhoi sylw i brif elfennau cost y diwrnod ysgol. Mae’r canllawiau yn canolbwyntio ar gyfleoedd i newid diwylliant mewn ysgolion mewn perthynas ag anfantais, ac yn darparu strategaethau i fynd i’r afael â heriau penodol o ran cost y diwrnod ysgol. Mae canllawiau Pris Tlodi Disgyblion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac anogir ysgolion a lleoliadau i’w defnyddio.

Dywedodd y Gweinidog Addysg: “Dw i’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd y Grant Datblygu Disgyblion gan ei fod yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein dysgwyr yn y dyfodol.

“Fel dw i wedi’i amlinellu yn ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’, dw i am weld ysgolion cryf a chynhwysol yng Nghymru, sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles; system sy’n cefnogi’r dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf.

“Rydyn ni’n gwybod bod cost y diwrnod ysgol yn fater pwysig i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ymestyn y polisi i gefnogi grwpiau blwyddyn eraill, a chaniatáu i deuluoedd brynu gliniaduron a chyfrifiaduron llechen a fydd yn help wrth ddysgu o bell yn y cyfnod digynsail hwn.”

Mae darpariaeth dda yn ysgolion Cymru eisoes, ac mae mynediad at wasanaethau a seilwaith digidol drwy raglen Technoleg Addysg Hwb. Rhoddwyd mwy na 130,000 o ddyfeisiau i ysgolion i’w dosbarthu.

Gallwch ddarllen rhagor am ymateb Cymru i ddysgu drwy gydol y pandemig yma: https://llyw.cymru/50-o-ddysgwyr-yr-eiliad-yn-mewngofnodi-i-ddysgu-ar-lein-ffyrdd-eraill-syn-dangos-sut-mae-cymru-yn

Nodiadau i olygyddion

You can download pictures from today's visit here: https://www.dropbox.com/sh/mcn3mv1sne8fi5g/AAAi9owko3oI52LJ_gtHIYRla?dl=0