English icon English
KW visit-2

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn egluro ymhellach y system i ddisodli arholiadau cymwysterau cyffredinol yn 2021

Education Minister Kirsty Williams provides further clarity on system to replace exams for general qualifications in 2021

Heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 16), rhannodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fanylion pellach am y cyfeiriad polisi ynghylch sut y bydd y system i ddisodli arholiadau cymwysterau cyffredinol yn 2021 yn gweithio.

Ym mis Tachwedd, wrth gadarnhau na fyddai unrhyw arholiadau diwedd blwyddyn i ddysgwyr TGAU, Safon UG na Safon Uwch y flwyddyn nesaf, dywedodd y Gweinidog y byddai’n sefydlu Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni i ddiogelu lles dysgwyr, sicrhau tegwch iddynt a’u cefnogi wrth symud ymlaen yn 2021.

Mae’r grŵp, a gadeirir gan Geraint Rees, ac sy’n cynnwys penaethiaid ac arweinwyr colegau a enwebwyd gan gonsortia rhanbarthol, Colegau Cymru ac awdurdodau lleol, wedi cyflwyno ei gynigion i’r Gweinidog bellach.

Roedd y grŵp yn cytuno bod angen i’r system fod yn deg i bob dysgwr, ac yn hyblyg fel na fydd dysgwyr yr amharwyd arnynt fwy nag eraill dan anfantais.

Bydd y dull gweithredu yn sicrhau y gall athrawon ddylunio a chynllunio gwaith addysgu gan ddysgu ynghylch asesiadau mewn ffordd hyblyg er mwyn hyrwyddo lles dysgwyr a’u cefnogi yn eu hanghenion. 

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau mai ei bwriad yw cefnogi cymwysterau cyffredinol yng Nghymru drwy dair elfen:

  • asesiadau nad ydynt yn arholiadau
  • asesiadau mewnol
  • asesiadau a gaiff eu llunio a’u marcio’n allanol.

Mae’r newyddion bod Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £1.9m ychwanegol mewn adnoddau addysg i gefnogi dysgwyr ym mlynyddoedd 12 ac 13 i baratoi ar gyfer eu hasesiadau Safon Uwch yn ategu’r penderfyniad.

Mae’r cymhorthion adolygu, sydd ar gael ar wefan CBAC, yn cynnwys adnoddau ‘trefnu gwybodaeth’ i helpu i ddysgu ffeithiau allweddol a gwybodaeth, rhoi sylw i hen bapurau arholiad, a chanllawiau adolygu.

Rhoddir yr adnoddau hyn ar ben £7m sy’n cael ei ddarparu i ysgolion a cholegau i gyflwyno rhaglenni cymorth mentora ac adolygu i ddysgwyr blynyddoedd arholiadau.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Hoffwn ddiolch i Geraint Rees a’r grŵp o benaethiaid ac arweinwyr colegau am weithio’n gyflym i ddatblygu’r argymhellion hyn ac am roi’r lle canolog i sicrhau tegwch i ddysgwyr.

“Dull tryloyw a thrwyadl o gefnogi dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf yw’r hyn rwy’n ei rannu heddiw.

“Mae’n sicrhau y gall prifysgolion fod yn hyderus yng ngallu myfyrwyr o Gymru ar sail eu cymwysterau, ac mae hefyd yn hyrwyddo addysgu, dysgu ac asesu cyson ledled Cymru wrth inni i gyd ymdrechu mewn gwahanol ffyrdd i ddod dros yr effaith y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar addysg.

“Roedd yn glir i mi bod yn rhaid i unrhyw opsiwn gadw lles ein dysgwyr mewn golwg. Rwy’n teimlo’n fodlon bod gennym ddull gweithredu sy’n deg i bob dysgwr, sy’n lleihau ar yr un pryd ar y tarfu ar ddysgu, ac sy’n cynnal hyder ac ymddiriedaeth yn integriti cymwysterau yng Nghymru.”

“Byddai opsiynau eraill wedi ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau ddylunio deunyddiau asesu, datblygu a phrofi cynlluniau marcio, ac yna fod yn gyfrifol am apelau mewn perthynas â’r rhain. Byddai hyn yn erydu’r amser addysgu a dysgu, a gallai arwain at anghysondeb ym mhrofiadau dysgwyr rhwng un ardal ac un arall yng Nghymru.

“Rwy’n hyderus hefyd bod y cynlluniau hyn yn lleihau’r effaith ar lwyth gwaith athrawon – mae athrawon a darlithwyr eisoes o dan bwysau mawr, ac nid ydym am ychwanegu at hyn.”

Rwy’n cadarnhau na fydd yr asesiadau mewnol yn dechrau tan ar ôl hanner tymor y gwanwyn. Gall ysgolion ganolbwyntio’n llwyr ar addysgu tan hynny, felly. Bydd CBAC yn darparu canllawiau a gwybodaeth bellach ym mis Ionawr. 

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd bod y grŵp wedi cytuno i barhau i gydweithio yn 2021 ar faterion manylach, gan gynnwys cefnogaeth i athrawon a darlithwyr, gan ystyried sut y gellid cydnabod gwahaniaethau mewn dysgu aflonyddedig, gan dynnu ar brosesau ystyriaethau arbennig, y broses apelio a’r broses pennu graddau, a sut i gynnal diddordeb dysgwyr drwy gydol y flwyddyn.

Aeth y Gweinidog yn ei blaen: "Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i sicrhau bod cymaint o wybodaeth yn cael ei rhannu cyn gynted â phosibl. 

"Mae wedi bod yn dymor hir ac rwy'n gobeithio y bydd pob dysgwr, athro, darlithydd, aelod o staff ysgol a choleg yn cymryd seibiant haeddiannol dros gyfnod y Nadolig.

"Rwyf wedi dweud droeon fy mod yn hynod falch o'r ffordd y mae'r teulu addysg wedi dod at ei gilydd yng Nghymru i wynebu'r heriau sydd wedi dod yn sgil y coronafeirws.

"Mae angen i ni i gyd fod yn barod i ddod at ein gilydd unwaith eto y flwyddyn nesaf i weithredu dros ein dysgwyr sydd eisoes wedi dioddef cymaint."

Mwy o fanylion am y tair elfen

  1. Asesiadau nad ydynt yn arholiadau

Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cael eu rheoli o fewn ysgolion a cholegau yn achos llawer o bynciau, ond nid pob pwnc, ac mae CBAC eisoes wedi gwneud addasiadau i'r rhain. Ni fydd hyn yn newid. 

  1. Asesiadau mewnol

Bydd ffenestr eang ar gyfer asesiadau mewnol rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill.

Bydd athrawon a darlithwyr yn gallu penderfynu pryd a sut i gynnal eu hasesiadau o fewn y ffenestr hon, i'w hymgorffori yn eu cynlluniau addysgu, cefnogi anghenion a lles dysgwyr a darparu hyblygrwydd rhag ofn y bydd tarfu.

Er mwyn sicrhau cysondeb profiad asesu a lleihau unrhyw alwadau ychwanegol ar athrawon a darlithwyr, darperir deunyddiau asesu gan CBAC y bydd ysgolion/colegau yn gallu dewis ohonynt.

Yr ysgolion a'r colegau fydd yn marcio'r asesiadau hyn, gan ddilyn canllawiau gan CBAC a rhannu’r canlyniadau â CBAC i lywio’r broses o bennu graddau.   

  1. Asesiadau a gaiff eu llunio a'u marcio'n allanol

Bydd y ffenestr estynedig ar gyfer asesiadau a gaiff eu llunio a'u marcio'n allanol yn dechrau ar 17 Mai ac yn dod i ben ar 29 Mehefin. 

Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd eang i alluogi athrawon a darlithwyr i ymgorffori'r asesiadau yn eu hamser addysgu, i ymateb i unrhyw darfu, ac i gefnogi lles dysgwyr. 

Bydd athrawon a darlithwyr yn penderfynu sut a phryd i gyflwyno'r asesiadau hyn yn yr ystafell ddosbarth fel nad ydynt yn creu pwysau a phryder arholiadau. 

Bydd CBAC yn darparu gwybodaeth am bynciau’r asesiadau mewnol ac allanol i gefnogi athrawon wrth baratoi eu dysgwyr ar gyfer asesiadau.

Bwriad y ffenestri asesu hyblyg yw caniatáu i asesiadau gael eu hymgorffori mewn cynlluniau addysgu a lleihau tarfu ar ddysgu fel bod dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn hyderus.

 

 

Nodiadau i olygyddion