English icon English

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi cynlluniau teithio i fyfyrwyr ar gyfer y Nadolig

Education Minister announces Christmas travel plans for students

Mae’r prifysgolion yn gweithio ar y cyd i helpu myfyrwyr i wneud trefniadau teithio mwy diogel ar gyfer diwedd y tymor.

Caiff profion covid-19 newydd, sy’n rhai llif unffordd ac a gynlluniwyd i brofi pobl heb symptomau, eu darparu i fyfyrwyr sy’n bwriadu teithio adref ar gyfer gwyliau’r Nadolig. Bydd prifysgolion ledled Cymru yn sicrhau bod y mwyafrif o wersi wyneb yn wyneb yn gorffen yn ystod yr wythnos sy’n dod i ben ar 8 Rhagfyr i alluogi hynny i ddigwydd.

Bydd hynny’n caniatáu i unrhyw un  sy’n profi’n bositif am y coronafeirws hunanynysu am 14 diwrnod cyn teithio adref ar gyfer y Nadolig.

Gofynnir i fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru sy'n bwriadu teithio adref ar gyfer y gwyliau:

  • leihau nifer eu cysylltiadau cymdeithasol yn ystod y cyfnod cyn diwedd y tymor;
  • cael prawf sy’n profi pobl asymptomatig, yn ddelfrydol o fewn 24 awr i'w hamser teithio arfaethedig. Bydd cyfleusterau newydd ar gael i brofi pobl asymptomatig mewn prifysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y cynllun i beilota hynny dros yr wythnosau nesaf.
  • cynllunio i deithio erbyn 9 Rhagfyr fan bellaf, a chaniatáu amser i ad-drefnu eu cynlluniau teithio rhag ofn y bydd angen iddynt hunanynysu;
  • ymgyfarwyddo â chynlluniau eu prifysgol mewn perthynas â chwblhau addysgu wyneb yn wyneb, a’u trefniadau i sicrhau bod pobl yn gallu gadael campysau'n ddiogel.

Bydd llywodraethau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cyhoeddi eu cynlluniau nhw ar wahân mewn perthynas â’r myfyrwyr sy'n byw yno. Mae pob llywodraeth wedi cydweithio dros yr wythnosau diwethaf ar y materion hyn. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r myfyrwyr o Gymru sydd mewn prifysgolion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

"Bydd llawer o fyfyrwyr am ddychwelyd adref ar gyfer gwyliau'r Nadolig ac rwy'n falch o gadarnhau'r trefniadau i alluogi hynny. Ein blaenoriaeth ni, a'r flaenoriaeth i'n prifysgolion, yw galluogi myfyrwyr i deithio adref yn ddiogel, ac ar yr un pryd leihau'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws. 

"Mae hefyd yn bwysig bod myfyrwyr yn cymryd camau i leihau'r cyfleoedd y gallent ddod â'r feirws yn ôl adref a’i drosgwlyddo i ffrindiau ac i aelodau o'r teulu, a allai fod yn llawer mwy agored i niwed o ganlyniad i'w effeithiau. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i fyfyrwyr leihau nifer eu cysylltiadau cymdeithasol wrth iddyn nhw baratoi at deithio adref. Po fwyaf y mae nifer y bobl sy’n ymgynnull i gymdeithasu, y mwyaf yw’r risg o ddal y coronafeirws. 

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i sicrhau bod pob myfyriwr, ble bynnag maen nhw’n byw neu'n astudio, yn cael eu trin yn deg ac yn gallu teithio adref mor ddiogel â phosibl.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n prifysgolion i roi cynllun peilot ar waith ar gyfer profi pobl heb symptomau ar lefel dorfol cyn diwedd y tymor. Byddwn yn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw er mwyn ei gwneud yn haws iddynt ddychwelyd adref ar ddiwedd y tymor.

"Rwy wedi bod yn benderfynol y gall myfyrwyr yma yng Nghymru dreulio'r gwyliau yn y lle y maen nhw’n dymuno gwneud hynny, ac mewn ffordd ddiogel - a bydd y trefniadau hyn yn caniatáu i hynny ddigwydd."