English icon English

Y Gweinidog Addysg yn datgan ‘y ffordd o feddwl’ am ddychwelyd i ysgolion

Education Minister sets out ‘thinking’ on return to schools

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy’n datgan sut mae’n ystyried y cam nesaf i ysgolion, fel ymateb i COVID-19.

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi disgrifio’r ddogfen waith fel un sy’n “datgan ein ffordd o feddwl ar hyn o bryd” ar gyfer sut bydd gweithrediadau ysgolion, lleoliadau addysg eraill a darparwyr gofal plant yn newid er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol a ffactorau eraill.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi bod ar gau ers dechrau’r pandemig, gyda rhai ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed.

Mae’r Fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynlluniau a heriau yn adeiladu ar y pum egwyddor a gyhoeddwyd gan y Gweinidog fis diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gwyddonwyr, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, athrawon, darparwyr addysg, undebau llafur ac awdurdodau lleol i ystyried yr opsiynau ar gyfer y cam nesaf i ysgolion a lleoliadau gyda heriau tebyg, fel darparwyr gofal plant a cholegau addysg bellach.    

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru heddiw cynllun ar gyfer sut bydd Llywodraeth Cymru yn symud allan o’r cyfyngiadau presennol.    

Dywedodd Kirsty Williams:

“Fel Gweinidog Addysg Cymru, byddaf yn gwneud penderfyniadau am sut a phryd bydd mwy o ddisgyblion yng Nghymru’n dychwelyd i’r ysgol. Heddiw, rwyf yn rhannu rhagor o wybodaeth am sut bydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud.

“Ni fyddai unrhyw beth yn fy ngwneud i’n hapusach na gweld ein hystafelloedd dosbarth yn llawn eto. Ond rydw i eisiau dweud yn glir nad yw’r fframwaith hwn – ac na fyddaf i – yn pennu dyddiad mympwyol ar gyfer pryd bydd rhagor o ddisgyblion yn dychwelyd i’r ysgol. Byddai pennu dyddiad cyn bod gennym ni fwy o dystiolaeth, mwy o hyder a mwy o reolaeth dros y feirws yn beth anghywir i’w wneud.       

“Nid un penderfyniad fydd hwn, ond cyfres o benderfyniadau dros amser yn cynyddu, neu os bydd angen, yn cyfyngu ar weithrediad. Bydd y newidiadau hyn yn gymhleth, gyda llawer o ystyriaethau gwahanol. Rwy’’ am i'r ddogfen waith annog adborth a thrafodaeth ehangach.

"Rwy'n rhannu hyn heddiw i fod mor dryloyw â phosibl. Rwy’ am i bawb wybod hyd a lled y materion sy'n gysylltiedig â'r cam nesaf. 

"Pan fyddwn ni'n barod i symud i'r cam nesaf, byddaf yn sicrhau bod digon o amser i baratoi ac i'r staff wneud unrhyw hyfforddiant angenrheidiol."

Dywedodd Margaret Davies, Pennaeth Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam:

"Rydyn ni wedi bod yn ffodus i fod yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru a phenaethiaid ar ein cynlluniau dychwelyd i'r ysgol. Mae seilio cynlluniau ar y wybodaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf wedi rhoi'r hyder imi, pan fyddwn yn barod i agor ein hysgolion, y bydd hyn yn cael ei wneud mor ddiogel â phosibl”.

Dywedodd Gwenllian Lansdown-Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

"Rwy'n falch o gael fy ngwahodd i gyfrannu at y gwaith, o gofio mor bwysig yw'r sector yn ei hawl ei hun a pha mor hanfodol fydd hi i ail-agor ysgolion hefyd."

Ychwanegodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr:

"Mae ein Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn eithaf clir mai iechyd a lles ein staff a'n dysgwyr sydd bwysicaf a bydd penderfyniadau yn seiliedig ar fanc o dystiolaeth gadarn. Rwy'n hyderus y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd yng Nghymru, reoli'r newid hwn "