English icon English
KW-6

Y Gweinidog Addysg yn gofyn i ‘arwyr cenedlaethol’ gadw ysgolion ar agor ar gyfer y GIG a gofalwyr yn ystod y gwyliau ysgol

Education Minister asks ‘national heroes’ to keep schools open for NHS and carers during school holidays

Heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 28) galwodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ar staff addysgu i wneud yr hyn a allan nhw i gadw ysgolion ar agor ar gyfer staff y GIG a gofalwyr yn ystod y ddwy wythnos a ddylai fod wedi bod yn wyliau Pasg.

Diolchodd y Gweinidog i bob aelod o staff addysgu a gyfrannodd at gyflawni’r her o gadw mwy na 700 o ysgolion ar agor er mwyn cefnogi’r ymateb uniongyrchol i’r coronafeirws cyn gofyn am help ar adeg a ddisgrifiodd fel ‘cyfnod o angen cenedlaethol’.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae angen cymuned gyfan i fagu plentyn, a dyw’r dywediad yna ddim erioed wedi bod yn fwy gwir.

“Yn y cyfnod hwn o angen cenedlaethol, mae ein cymuned addysgu wedi codi ar eu traed ac ymateb i’r her.

“Mae mwy na 700 o ysgolion wedi cadw eu drysau ar agor er mwyn gofalu am blant staff y GIG, gofalwyr, pobl sy’n achub bywydau.

“Dw i nawr yn gofyn ichi wneud mwy eto a chadw’r ysgolion ar agor yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod yn wyliau ysgol.”

Wrth siarad ar fideo a ryddhawyd ar Twitter, aeth y Gweinidog yn ei blaen: “Dyw hi ddim erioed wedi bod yn bwysicach i’n plant a’n pobl ifanc gael pobl y maen nhw’n eu nabod ac yn ymddiried ynddyn nhw o’u cwmpas.

“Dw i’n gofyn ichi fod yn hyblyg a chynnig peth amser dros gyfnod y Pasg i barhau i helpu plant bregus ar y naill law, a theuluoedd ein gweithwyr hanfodol ar y llaw arall.”

Roedd y Gweinidog yn glir nad oedd hi’n gofyn i staff ysgolion eu rhoi eu hunain mewn perygl, a dywedodd unwaith eto y dylai athrawon ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru o ran gwneud lleoliadau ysgol yn llefydd diogel, ynghyd â’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.

Aeth y Gweinidog yn ei blaen: “Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau gwneud trefniadau ar gyfer darpariaeth dros y gwyliau Pasg – rydyn ni’n disgwyl i bob awdurdod lleol wneud yr un fath.

“Fe hoffwn i ddiolch i undebau ein gweithlu, yn genedlaethol ac yn lleol, sydd wedi gweithio gyda ni tuag at yr un amcanion – lles ein plant, ein pobl ifanc a’r proffesiwn addysgu; nid dim ond athrawon, ond cynorthwywyr, staff arlwyo, gofalwyr ysgolion a llawer o bobl eraill.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai’r cymorth a ddarperir ar hyn o bryd i deuluoedd plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn ymestyn dros gyfnod gwyliau’r Pasg.

“Mae traddodiad cryf o gefnogi cymunedau yng Nghymru, ac fe alla i gadarnhau bod modd defnyddio’r cyllid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu plant sy’n cael prydau ysgol am ddim er mwyn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim dros y gwyliau Pasg,” meddai.

“Fe fydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol barhau â’u trefniadau lleol tra awn ni ati i sefydlu cynllun cenedlaethol i helpu plant sy’n cael prydau ysgol am ddim.

“Wrth greu cynllun cenedlaethol, fe fyddaf yn gofalu bod awdurdodau lleol yn dal i allu dilyn eu trywydd eu hunain, os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny.

“Fe fydd rhyddid ganddyn nhw i optio i mewn i gynllun cenedlaethol, neu barhau i ddarparu cymorth hyblyg os mai dyna yw eu dewis, er enghraifft taliadau uniongyrchol neu gyflenwadau i deuluoedd nad ydyn nhw’n gallu gadael eu cartrefi am eu bod yn hunanynysu.

“Dw i o’r farn bod hwn yn ddull gweithredu cynaliadwy a fydd yn galluogi teuluoedd i gyllidebu a chynllunio eu gwariant ar sail eu hanghenion.”

Daeth y Gweinidog â’i neges fideo i ben drwy ddweud: “Yn olaf, fe hoffwn i ddweud cymaint dw i, a phobl Cymru, yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad, eich ymroddiad a’ch ewyllys da.

“I mi, ac i ddisgyblion ledled Cymru, mae staff ysgolion eisoes yn arwyr bob dydd. Ond nawr yn y cyfnod hwn o angen cenedlaethol – wrth gefnogi’r frwydr yn erbyn y coronafeirws – rydych chi’n arwyr cenedlaethol.”