English icon English

Y Gweinidog Cyllid yn dweud nad yw datganiad y Canghellor yn mynd yn ddigon pell

Chancellor’s statement doesn’t go far enough says Finance Minister

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn dweud bod y mesurau cefnogi swyddi a gafodd eu hamlinellu gan y Canghellor heddiw yn ‘gam yn y cyfeiriad cywir’. Fodd bynnag, rhybuddiodd hefyd nad yw lefel y cymorth yn mynd yn ddigon pell i sicrhau incwm priodol i weithwyr.

Mae’r Gweinidog wedi mynegi ei siom hefyd o glywed y cynhelir adolygiad o wariant blwyddyn o hyd a galwodd ar Lywodraeth y DU i roi’r gorau i’r dull tameidiog hwn o ymdrin â chyllid cyhoeddus.  

Dywedodd Rebecca Evans:

“Er bod y cyhoeddiad heddiw yn gam yn y cyfeiriad cywir, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd cyflogwyr ar eu colled o dan y cynllun newydd hwn o gymharu â’r hyn roedden nhw’n ei gael o dan y Cynllun Cadw Swyddi.  

“Gydol yr argyfwng COVID, rydyn ni wedi darparu pecyn cymorth i fusnesau yma yng Nghymru sydd wedi bod yn fwy hael na’r hyn a ddarparwyd yn unrhyw ran arall o’r DU. Rydyn ni’n dal i fynd drwy fanylion y cyhoeddiad heddiw. Ond rydyn ni’n rhagweld y bydd y cymorth y byddwn ni’n ei ddarparu i fusnesau sy’n gorfod cau o ganlyniad i’r cyfnod atal byr bythefnos o hyd yn dal i fod yn fwy hael na’r hyn a ddarperir yn Lloegr.”

Dywedodd y Gweinidog hefyd:

“Rhaid inni hefyd weld diwedd ar y dull tameidiog a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU o ymdrin â chyllid cyhoeddus. Nid yw’r dull hwn, ynghyd â’r diffyg buddsoddi ar sail aml-flwyddyn, yn helpu’r sefyllfa o gwbl ac mae’n golygu bod y dasg o reoli ein cyllidebau yn un hynod anodd.  

“Mae angen inni gael ymrwymiadau gwariant hirdymor gan Lywodraeth y DU er mwyn ein galluogi i barhau i ddiogelu pobl Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig, a’n helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus yn well a dechrau gosod y sylfeini ar gyfer adfer.”