English icon English
Cardiff Airport-2

Y Gweinidog Cyllid yn galw ar Lywodraeth y DU ‘i beidio â llusgo’i thraed’ ar bwerau Toll Teithwyr Awyr i Gymru

Finance Minister calls on UK Government to ‘stop dragging its feet’ on APD powers for Wales

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr (APD) i Gymru yn dilyn cyhoeddi adolygiad yn y DU o’r Doll Teithwyr Awyr a chysylltedd awyr rhanbarthol.

Ym mis Medi 2019 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phenderfyniad i rwystro datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru er gwaethaf argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig trawsbleidiol i’w datganoli’n llawn i Gymru erbyn 2021. Mae datganoli’r Doll Teithwyr Awyr hefyd wedi’i gefnogi gan bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd.

Gyda chefnogaeth unfrydol y sectorau hedfanaeth, twristiaeth a busnes ledled Cymru mae’r Gweinidog Cyllid bellach yn galw ar Lywodraeth y DU ‘i fwrw ati i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru’.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Nid oes unrhyw reswm da dros beidio â rhoi Cymru mewn sefyllfa gyfartal â’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran y Doll Teithwyr Awyr. Daeth yr amser i Lywodraeth y DU beidio â llusgo’i thraed fel y gall y penderfyniadau hyn gael eu gwneud yng Nghymru.

 “Mae sail dystiolaeth rymus a chefnogaeth drawsbleidiol am symudiad a fyddai’n dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru.

“Mae gennym y cyfle i dyfu ein heconomi a lleihau teithiau i feysydd awyr gyda system sy’n diwallu anghenion Cymru – ond ni allwn ei gwneud yn realiti tan fod Llywodraeth y DU yn bwrw ati gyda datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates:

“Mae’r penderfyniad hwn yn dangos sut y gall y Doll Teithwyr Awyr gael ei defnyddio i’w gwneud hi’n bosibl i gymell teithwyr i ddefnyddio mwy o feysydd awyr lleol a rhanbarthol. Byddaf yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau ein bod wrth wraidd y trafodaethau ynghylch dyfodol y Doll Teithwyr Awyr.”