Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ryddhau ar gyfer meddygon teulu
Health Minister announces release of personal protection equipment for GPs
Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd meddygfeydd teulu ledled Cymru yn cael pecynnau o fygydau wyneb, menyg a ffedogau i'w hamddiffyn wrth iddynt drin pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.
Mae pecynnau wedi’u paratoi dros y penwythnos, a byddant yn cael eu dosbarthu i'r 640 o feddygfeydd teulu yng Nghymru yr wythnos hon.
Awdurdododd y Gweinidog Gyfarpar Diogelu Personol hefyd i gael eu rhyddhau o gyflenwadau i'w defnyddio gan staff rheng flaen y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
“Mae'r pecynnau hyn yn rhan o fesurau rheoli heintiau cadarn sydd ar waith gennym, ac rwyf am sicrhau pobl ein bod yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad i roi ein hymateb arfaethedig ar waith.
"Mae'n bwysig bod gan staff gofal meddygol a chymdeithasol rheng flaen y cyfarpar sydd eu hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel tra byddant yn helpu pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.
"Mae'r mygydau wyneb, y menyg a’r ffedogau yn rhan o gyflenwad sydd gennym yn ein cynlluniau wrth gefn os bydd eu hangen i gefnogi ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.