English icon English
Eluned Morgan at Hywel Dda-2

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi codiad cyflog o 3% i staff GIG Cymru

Health Minister announces 3% pay rise for Welsh NHS staff

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cytuno i roi codiad cyflog o 3% i holl staff y GIG, wrth iddi dderbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau yn llawn heddiw.

Mae’r argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a Chorff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion yn berthnasol i staff sy'n cael eu cyflogi yn unol â thelerau ac amodau'r Agenda ar gyfer Newid, sy’n cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth iechyd cyflogedig. Mae hefyd yn berthnasol i feddygon ymgynghorol, meddygon dan hyfforddiant, meddygon ar gontractau arbenigwyr ac arbenigwyr cyswllt (SAS) cyn 2021, meddygon teulu a deintyddion cyflogedig.

Bydd y codiad cyflog yn dod i rym yn ôl-weithredol o fis Ebrill 2021.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i staff GIG Cymru am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig hwn. Mae llawer o’r staff wedi gweithio oriau hir iawn dan bwysau aruthrol.

“Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG a’r cyfraniad enfawr y maent wedi’i wneud. Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru’n eu gwerthfawrogi.

“Ar gyfer staff ar y cyflog isaf, mae hyn yn golygu ein bod yn talu’n fwy na’r argymhelliad Cyflog Byw o £9.50 yr awr, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau fod GIG Cymru’n gyflogwr Cyflog Byw.”

Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu unrhyw wybodaeth hyd yma ynglŷn ag a fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu costau’r codiad cyflog a argymhellir ar ben y cap o 1% a gyhoeddwyd yn flaenorol, ond dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd cyllidebau cyfredol yn cael eu blaenoriaethu i alluogi gweithredu’r fargen hon.

Rhoddir y codiad cyflog ar ben taliad bonws y GIG a gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ym mis Mawrth 2021. Roedd y taliad unigol o £735 yn cydnabod y gofal tosturiol a roddwyd gan weithlu’r GIG i bobl Cymru pan oeddem fwyaf agored i niwed.

Nodiadau i olygyddion

Once NHS Payroll has processed the pay award, it should be in people’s pay packets in autumn.

The starting salary for lowest paid staff will be £19918 pa

The recommended 3% uplift in pay for contracted GPs and dentists is subject to overall contract changes for General Medical and General Dental Services.