Y Gweinidog Iechyd yn nodi cynlluniau gwella ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Health Minister outlines improvement plans for Betsi Cadwaladr University Health Board
Mae fframwaith Ymyriad wedi'i Dargedu newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl i’r mesurau arbennig gael eu codi fis Tachwedd y llynedd.
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi nodi pedwar maes allweddol y mae angen eu gwella yn y bwrdd iechyd, sef –
- Iechyd Meddwl (oedolion a phlant)
- Strategaeth, cynllunio a pherfformiad
- Arweinyddiaeth (gan gynnwys llywodraethu, trawsnewid a diwylliant)
- Ymgysylltu (cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid)
Mae'r meysydd hyn yn gydnaws â'r argymhellion a ddeillodd o waith gan gyrff proffesiynol ynghyd ag adborth cyffredinol am y bwrdd iechyd dros y 12 mis diwethaf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd drwy gydol y broses Ymyriad wedi'i Dargedu gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ac y cytunir ar ymyriadau priodol lle bo angen. Bydd asesiad pellach yn cael ei gynnal ym mis Mai a bydd unrhyw newidiadau'n cael eu hychwanegu at y fframwaith.
Cefnogir y cynllun Ymyriad wedi'i Dargedu gan gyllid o £297 miliwn hyd at ddiwedd 2023/24 gan Lywodraeth Cymru, fel y cyhoeddwyd y llynedd. Defnyddir y buddsoddiad sylweddol hwn i wella gofal heb ei drefnu; i ddatblygu system gynaliadwy o ofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys orthopedeg; ac i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Wrth i'r bwrdd iechyd symud i statws o ymyriad wedi'i dargedu, mae’n hanfodol bod trawsnewid ac arloesi yn digwydd, a bod y sefydliad yn parhau i adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi’u gwneud eisoes.
"Mae ymyriad wed’i dargedu yn dal i fod yn lefel uwchgyfeirio sy'n gofyn am weithredu sylweddol, ond rwy'n hyderus bod y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau datblygiad pellach. Hoffwn ddiolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gwneud cynnydd, a chynnal y cynnydd hwnnw, er mwyn i’r mesurau arbennig allu dod i ben. Ac maent wedi gwneud hynny ochr yn ochr â mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws."
Nodiadau i olygyddion
Gellir gweld y fframwaith Ymyriad wedi'i Dargedu llawn yma
https://llyw.cymru/ymyriad-wedii-dargedu-bwrdd-iechyd-prifysgol-betsi-cadwaladr