English icon English

Y Gweinidog yn agor gorsaf ambiwlans newydd gyda’r adnoddau diweddaraf yng Nghaerdydd

Minister opens Cardiff’s new state-of-the art ambulance station

Ddoe, agorodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, orsaf newydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Nghaerdydd yn swyddogol.

Mae’r cyfleuster £8 miliwn ym Mhontprennau, sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gartref newydd i griw sy’n ymateb i achosion brys yn ogystal â chriw sy’n ymateb i achosion nad ydynt yn rhai brys. Cyn hyn, roedd y criwiau yn gweithio yng Ngorsaf Ambiwlans Blackweir.

Mae Uned Ymateb Beiciau'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi'i lleoli yn y cyfleuster newydd. Mae’r orsaf yn cynnwys 'Depo Paratoi’ lle mae Cynorthwywyr Fflyd yn glanhau ac yn atgyflenwi stoc y cerbydau, er mwyn i glinigwyr allu treulio rhagor o amser yn gwasanaethu cleifion yn y gymuned.

Mae Siarter Teithio Iach Caerdydd wedi bod yn ganolog i gynllun yr orsaf. Mae ganddi fannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, lle i storio beiciau, blychau ystlumod a system casglu dŵr glaw, sy'n golygu bod modd ailddefnyddio dŵr ar gyfer glanhau cerbydau.

Gwnaeth y Gweinidog ymweld hefyd ag ystafell hyfforddiant ‘ymgolli’ newydd yr orsaf, lle bydd sefyllfaoedd bywyd go iawn yn cael eu hail-greu drwy dechnoleg efelychu er mwyn profi sgiliau myfyrwyr.

Mae'r orsaf newydd yn rhan o raglen waith i foderneiddio ystad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Rydw i mor falch o agor gorsaf ambiwlans newydd Caerdydd yn swyddogol. Bydd hon yn darparu’r ganolfan maen nhw'n ei haeddu i’r criwiau. Bydd y cyfleusterau diweddaraf yn golygu bod y criwiau yn gallu treulio rhagor o amser gyda phobl sy’n sâl neu wedi'u hanafu. Mae yma hefyd gyfleusterau hyfforddi gwych ar gyfer staff newydd a staff sy’n gweithio i’r Gwasanaeth yn barod.

“Yn ogystal â'r £3 miliwn rydyn ni'n ei fuddsoddi i recriwtio tua 100 yn rhagor o staff rheng flaen ac i gyflwyno gwasanaeth cwbl newydd Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru, bydd y trefniadau newydd yn cynnig llawer o fanteision i staff y Gwasanaeth Ambiwlans a'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.” 

Dywedodd Chris Willis, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Nghaerdydd:

“Mae'r prosiect hwn wedi cymryd blynyddoedd i’w gwblhau felly rydyn ni wrth ein boddau ei fod nawr ar waith. Mae gennym atgofion melys o'n cyfnod yng Ngorsaf Ambiwlans Blackweir, ond roedd yr adeilad yn perthyn i gyfnod penodol ac nid oedd yn addas ar gyfer y diben erbyn hyn.  

“Mae hon yn orsaf ambiwlans ar gyfer yr 21ain ganrif. Gallwn ni fod yn falch ohoni, ac mae'n golygu bod gan griwiau, o'r diwedd, y cyfleusterau maen nhw'n eu haeddu. Yn y pen draw, bydd hyn hefyd yn golygu bod pobl Caerdydd yn cael gwasanaeth gwell.

“Mae'r Depo Paratoi yn enwedig yn gam enfawr ymlaen. Bydd yn rhyddhau criwiau i dreulio rhagor o amser yn y gymuned ond bydd hefyd yn gwella trefniadau rheoli heintiau, sy'n bwysicach nag erioed.”

Ychwanegodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth:

“Un o'n prif flaenoriaethau ni fel sefydliad yw sicrhau bod gan ein staff gyfleusterau sy'n ddiogel, sy’n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, sy'n addas ar gyfer y diben, ac sy'n eu galluogi nhw i wasanaethu cymunedau yn y ffordd orau bosibl.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei buddsoddiad yn y prosiect hwn.”