English icon English
Wales Dublin 31-2

Y Gweinidog yn mynychu ‘Wythnos Cymru Dulyn’ i dathlu’r berthynas ‘hynod bwysig’ rhwng y gwledydd

Minister to attend first-ever ‘Wales Week Dublin’ to celebrate ‘extremely important’ relationship between countries

Bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn teithio i Iwerddon heddiw (dydd Mercher, 11 Mawrth) i fynychu Wythnos Cymru Dulyn – y  tro cyntaf i’r achlysur gael ei gynnal. 

Cynlluniwyd Wythnos Cymru Dulyn i blethu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl Padrig ac i hyrwyddo Cymru yn Iwerddon. Bydd yn para tan ddydd Gwener, 13 Mawrth, a’r canolbwynt fydd Cromen Ddigidol Tŷ Cymru yn adeilad y Custom House, sydd hefyd yn gartref i EPIC, Amgueddfa Ymfudo Iwerddon.

Yn ystod ei hymweliad, bydd y Gweinidog yn cymryd rhan mewn digwyddiad i lansio partneriaeth gyffrous rhwng TG Lurgan, platfform digidol blaengar Iwerddon ar gyfer ieithoedd lleiafrifol, ac Urdd Gobaith Cymru, sy’n darparu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer ei 55,000 o aelodau.

Bydd y Gweinidog hefyd yn lansio prosiect a fydd yn bwrw golwg ar ddiwylliant porthladdoedd Iwerddon a Chymru.

Caiff y prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw ei ariannu gan raglen Iwerddon-Cymru ac mae’n edrych ar ddiwylliannau ardaloedd porthladdoedd Dulyn, Ros Láir, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.

Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog: "Mae'r berthynas ag Iwerddon yn hynod bwysig i ni yng Nghymru.

"Y Weriniaeth yw ein cymydog Ewropeaidd agosaf ac un o'n partneriaid economaidd pwysicaf ac rydyn ni yn Llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu cysylltiadau llawer cryfach ag Iwerddon yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa yn Nulyn ers 2012, ac ym mis Mai 2019 ailagorodd Llywodraeth Iwerddon ei Chonswliaeth yng Nghaerdydd, gan ailbwysleisio’r berthynas gref rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae digwyddiadau Wythnos Cymru Dulyn yn rhoi sylw i feysydd cydweithredu allweddol, gan gynnwys busnes; cysylltiadau diwylliannol; y byd academaidd; cenedlaethau'r dyfodol; cyfrifoldeb byd-eang; twristiaeth, treftadaeth, creadigrwydd ac iaith, yn unol â strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru.