Y Prif Weinidog yn addo "cyflawni mwy byth i bobl Cymru" ar drothwy blwyddyn olaf tymor y Senedd
FM vows to “deliver even more for the people of Wales” ahead of final year of Senedd term
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi traddodi araith yn canolbwyntio ar y pethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud mewn meysydd blaenoriaeth, wrth i'r Senedd agosáu at ddechrau toriad yr haf yr wythnos nesaf.
Wrth siarad yn ystod dadl gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd y prynhawn yma, amlinellodd y Prif Weinidog sut mae'r llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiadau ar draws pedwar maes blaenoriaeth: Gwell Iechyd, Mwy o Gartrefi, Gwell Trafnidiaeth a Mwy o Swyddi.
Gwell Iechyd
Soniodd y Prif Weinidog am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cwtogi amseroedd aros hiraf y GIG, sydd wedi gostwng 86% ers pan oeddent ar eu brig yn ystod pandemig Covid. Cyhoeddwyd £120 miliwn arall fis Mehefin i helpu i sicrhau bod 200,000 yn llai o gleifion ar restrau aros, i gael gwared ar bob arhosiad dwy flynedd ac i adfer yr uchafswm o wyth wythnos o amser aros am brofion diagnostig. Ymysg y polisïau allweddol eraill mae Hybiau Iechyd Menywod, a fydd ar waith ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026, gan sicrhau bod menywod yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu.
Mwy o Gartrefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm sylweddol o bron i £2bn mewn tai cymdeithasol i sbarduno’r gwaith o gyrraedd y targed tai cymdeithasol mwyaf uchelgeisiol a welodd Cymru erioed. Yn sgil rhai o'r cyfraddau cyflawni blynyddol uchaf ers 2008, mae mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu helpu i gael gafael ar y cartrefi y mae arnynt eu hangen.
Gwell Trafnidiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn ar fflyd o drenau newydd ac wedi neilltuo dros £1 biliwn i Linellau Craidd y Cymoedd i drawsnewid y profiad o deithio ar drên yng Nghymru. Mae teithiau gan deithwyr ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu 19% rhwng 2023/24 a 2024/25, y cynnydd mwyaf mewn teithiau o blith holl weithredwyr rheilffyrdd y DU. Fis Mawrth cyflwynwyd Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), bydd tocynnau bws am £1 ar gael i bobl ifanc o fis Medi a bydd o leiaf 200,000 o dyllau’n cael eu trwsio neu eu hatal erbyn diwedd eleni.
Mwy o Swyddi
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £600 miliwn mewn busnesau yn nhymor y Senedd hon, gan greu 42,000 o swyddi, a bydd Cymru'n cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol fis Rhagfyr i ddenu hyd yn oed yn rhagor o fuddsoddwyr byd-eang i Gymru. Yn y cyfamser, mae'r Warant i Bobl Ifanc wedi helpu mwy na 57,000 o bobl ifanc i fynd i mewn i fyd cyflogaeth a hyfforddiant ers ei chyflwyno yn 2021
Yn ei haraith, dywedodd y Prif Weinidog:
"Pan ddes i'n Brif Weinidog fis Awst diwethaf, ac ar ôl ymarfer gwrando yn ystod yr haf, roeddwn i'n glir – o blith blaenoriaethau’r bobl, cyflawni sy’n dod yn gyntaf. Newid go iawn - newid y gall pobl ei deimlo yn eu bywydau.
"Dyw'r llywodraeth yma ddim yn sefyll yn ei hunfan - ry'n ni'n mynd amdani. Ry'n ni'n torchi'n llewys, yn mynd ati o ddifri ac yn cyflawni'r pethau sy'n wirioneddol bwysig.
"Gyda ffocws o'r newydd, ry'n ni'n mynd i orffen y tymor yma drwy gyflawni mwy byth i bobl Cymru."