English icon English
FM and Mr Hilling for web-3

Y Prif Weinidog yn cyflwyno llythyr o ddiolch i gyn-filwr 99 oed wrth i Gymru nodi Diwrnod VJ

First Minister gives letter of thanks to 99-year-old veteran as Wales marks VJ Day

Heddiw, cyflwynodd Prif Weinidog Cymru lythyr o ddiolch i gyn-filwr a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel, wrth i Gymru goffáu 80 mlynedd ers diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ) a diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd y deyrnged ei rhoi i Duncan Hilling o Saundersfoot, a ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol ym mis Ebrill 1944 cyn trosglwyddo i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan Eluned Morgan i gydnabod ei wasanaeth eithriadol yn ystod y rhyfel. Aeth taith filwrol y gŵr 99 oed ag ef drwy India, Japan, a Malaia yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf heriol y gwrthdaro.

Roedd Mr Hilling ymhlith y lluoedd cyntaf yn y DU i fynd i Hiroshima a Nagasaki ychydig wythnosau ar ôl i'r bomiau atomig gael eu gollwng ym mis Awst 1945, gan brofi'r canlyniadau dinistriol yn uniongyrchol. Roedd yn un o un ar ddeg o blant, a bu i saith arall o'u plith wasanaethu yn y rhyfel hefyd. Yn rhyfeddol, goroesodd pob un ohonynt y gwrthdaro.

Mae Diwrnod VJ, a nodir ar 15 Awst, yn coffáu Buddugoliaeth dros Japan a diwedd yr Ail Ryfel Byd, gan gofio'r rhai a wasanaethodd yn y rhyfel yn erbyn Japan yn rhanbarth y Môr Tawel.

 

Dywedodd Mr Hilling:

"Es i allan i Japan a threulio blwyddyn yno. Roedd hi'n wlad ddiddorol. Ni oedd y milwyr cyntaf i gyrraedd yno. Aethom i Hiroshima, lle'r oedd erchyllterau'r bom atomig yn dal i'w gweld. Roedd e'n ofnadwy. Fe wnaethon ni ofyn i bobl beth oedden nhw'n ei gofio am y bom. Doedden nhw ddim yn gallu cofio unrhyw beth, dim ond fflach. I mi a fy nghyd-filwyr, chwech ohonom, roedd e'n erchyll. Dydw i ddim yn meddwl fydd pobl byth yn gallu deall sut beth oedd e. Gadewch i ni obeithio'n wir fydd e byth yn digwydd eto.

"Ces i'n synnu'n llwyr gan y Prif Weinidog yn dod i'm gweld ac yn rhoi llythyr o ddiolch i mi. Rwy'n meddwl am yr holl fechgyn oedd gyda mi yn Japan, bron pob un wedi mynd erbyn hyn gan fy mod i bron yn gant."

 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Mae'n fraint diolch yn bersonol i Mr Hilling am ei wasanaeth a'i aberth anhygoel. Mae ei brofiadau yn Hiroshima a Nagasaki yn ein hatgoffa o wir gost y rhyfel a dewrder y rhai wnaeth wasanaethu yn Asia a'r Môr Tawel. Wrth nodi wyth deg mlynedd ers Diwrnod VJ, ry'n ni'n anrhydeddu pob cyn-filwr fel Mr Hilling wnaeth helpu i sicrhau'r heddwch a'r rhyddid ry'n ni'n eu mwynhau heddiw."