English icon English

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi coedlannau coffa

First Minister announces commemorative woodlands

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd coedlannau coffa’n cael eu plannu er cof am y bobl a fu farw o ganlyniad i coronafeirws.

Bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu – un yn y Gogledd ac un yn y De – fel symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac fel symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu. Y gobaith yw y byddant yn rhywle y gall teuluoedd a ffrindiau fynd iddynt i gofio am eu hanwyliaid a fu farw. Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd gofio am y pandemig a’r effaith enfawr y mae wedi’i chael ar ein bywydau.

Bydd amryw o rywogaethau o goed yn cael eu plannu yn y coedlannau, gan eu gwneud yn wydn i amgylchedd newidiol; symbol addas o’r cryfder y mae pobl Cymru wedi’i ddangos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist dros ben gan ein bod ni’n nodi blwyddyn ers i’r person cyntaf yng Nghymru farw o coronafeirws.

“Ers y diwrnod hwnnw mae llawer gormod o bobl wedi marw’n llawer rhy gynnar. Rydym yn eu cofio nhw heddiw ac yn eu cadw yn ein calonnau ac yn ein meddyliau.

“Heddiw, rwy’n cyhoeddi y bydd dwy goedlan newydd yn cael eu plannu – un yn y Gogledd ac un yn y De – fel mannau coffa byw a pharhaol i’r bobl a fu farw.

“Bydd y coedlannau hyn yn tyfu yn fannau lle gall teuluoedd ac eraill ddod i gofio am yr holl bobl a gollwyd. 

“Mae’r pandemig wedi taflu cysgod hir dros ein bywydau ers blwyddyn, ond gallwn hefyd edrych yn obeithiol tua’r dyfodol.”

Bydd lleoliadau’r ddau safle’n cael eu cyhoeddi yn fuan a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i gynllunio’r coedlannau.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae coetiroedd yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd a’n cymunedau ac maent yn symbolau pwerus ac ingol o fywyd a choffadwriaeth.

“Bydd y coedlannau newydd yn fannau coffa byw a fydd yn tyfu gan anrhydeddu’r holl bobl a fu farw o ganlyniad i coronafeirws.

“Yn ogystal â bod yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig, bydd y coedlannau hefyd yn fannau tawel, diogel a hygyrch i deuluoedd ddod i gofio am eu hanwyliaid.”

Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y cynhelir Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws ddydd Mawrth 23 Mawrth ac y bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC 1 Cymru a S4C am 5pm.