English icon English

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi enwau teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant

First Minister announces St David Awards finalists

Heddiw, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi enwi syrffiwr, swyddog yr heddlu a chyn-ornestwr crefft ymladd ymhlith teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2020.

Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant. Maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion yng Nghymru.  

Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n fraint imi gael enwi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant 2020 – am grŵp o unigolion sy’n ysbrydoliaeth! Rydyn ni’n hynod lwcus bod gennym ni unigolion fel hyn yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Mae’r gwobrau yn ddathliad o fywyd unigolion sy’n gwneud Cymru yn lle gwell i fyw. Mae pob un o’r teilyngwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr, o achub bywyd, i oresgyn trallod, i ysbrydoli eraill, neu gefnogi cymuned.

“Mae pob un o deilyngwyr ein Gwobrau Dewi Sant wir yn eithriadol ac maen nhw’n glod i’n cenedl. Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau yn y seremoni wobrwyo ddydd Iau 19 Mawrth.”

Mae’r gwobrau wedi cael eu rhannu o dan y categorïau canlynol: Dewrder; Diwylliant; Busnes; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Chwaraeon a Pherson Ifanc. Mae yna hefyd ddau gategori newydd: Ysbryd y Gymuned, a Dyngarol.

Y Prif Weinidog sy’n dewis enillydd y wobr olaf, Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, a bydd ei enw yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni fis Mawrth.

 

Dewrder

DC Jessica Hanley

Bu Jessica yn eithriadol o ddewr wrth ei rhoi ei hun mewn perygl i achub pobl a oedd wedi eu dal yng Ngwesty’r Belgrave House pan oedd ar dân ym mis Gorffennaf 2018. Jesicca oedd un o’r swyddogion cyntaf i gyrraedd y gwesty a llwyddodd i helpu nifer o bobl i ddod o’r adeilad cyn i’r criwiau tân cyntaf gyrraedd, gan helpu i achub 59 o bobl.

Joseph Morris

Syrffiwr 17 oed o Bort Talbot yw Jo, a mis Awst y llynedd, llwyddodd i achub dau o bobl a oedd wedi mynd i drafferth yn y môr. Roedd Jo yn syrffio ar draeth Aberafan pan welodd y ddau ohonynt yn ceisio nofio yn erbyn cerrynt terfol wrth y pier.

Joel Snarr a Daniel Nicholson

Fe wnaeth Joel, o Gaerdydd, a Daniel, o’r Fenni, achub bywydau tri o bobl a oedd wedi eu dal mewn awyren a oedd ar dân ar yr A40 ger y Fenni. Gan ddilyn eu greddf a heb feddwl amdanynt eu hunain, neidiodd y ddau o’u ceir a rhedeg i helpu’r bobl a oedd wedi eu dal ym malurion yr awyren.  

Busnes

Adrian Emmett

Mae Adrian Emmett yn gyflogwr pwysig yn ardal Treorci. O ganlyniad i’w waith, mae tafarndai a oedd wedi stopio cael eu defnyddio wedi dod yn rhai poblogaidd eto. Mae Adrian yn gysylltiedig â llawer o ddigwyddiadau lleol, gan gynnwys Gŵyl Gelf Cwm Rhondda, Sinema Awyr Agored, Pride y Rhondda, arddangosfa tân gwyllt y dref a pharêd y Nadolig, dim ond i enwi rhai. Yn gynharach eleni, enillodd Treorci wobr Stryd Fawr Orau Prydain, ac enillodd Adrian wobr Arwr y Stryd Fawr.

Moneypenny

Cwmni yn Wrecsam yw Moneypenny ac mae’n darparu gwasanaeth sy’n delio â galwadau ffôn busnesau eraill. Mae’r cwmni’n cyflogi tua 650 o bobl yn ei bencadlys yn Wrecsam. Mae’n buddsoddi llawer o arian yn ei staff ac mae wedi ymrwymo i ddod yn un o weithluoedd gorau’r DU. Yn sgil yr ymrwymiad hwn, mae’r cwmni wedi cyrraedd rhestr y Sunday Times o’r busnesau gorau y gallech weithio iddynt, a hynny ers bron i 10 mlynedd.

Penderyn

Mae wisgi Penderyn yn adnabyddus ledled y byd. Mae’r cwmni cynhyrchu wisgi wedi tyfu ers iddo gael ei sefydlu yn 2000 ac erbyn heddiw mae’n allforio ei gynnyrch i bob cwr o’r byd. Mae’r ddistyllfa yn atyniad twristiaeth pwysig yng Nghymru a daeth mwy na 43,000 o ymwelwyr yno yn 2019. Yn y dyfodol, mae’r cwmni’n bwriadu agor dwy ddistyllfa arall a fydd yn ganolfannau i ymwelwyr, un yn Abertawe ac un yn y Gogledd.

Tŷ Mawr Lime

Sefydlwyd Tŷ Mawr Lime Ltd yn 1995 gan ŵr a gwraig o’r enw Nigel a Joyce Gervis, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at adfer y defnydd o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol yng Nghymru. Mae Tŷ-Mawr Lime Ltd wedi dod yn un o arweinwyr y farchnad mewn perthynas â dylunio, gweithgynhyrchu a dosbarthu deunyddiau a systemau adeiladu sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

Ysbryd y Gymuned

Community Furniture Aid

Elusen ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Community Furniture Aid. Mae hi wedi ennill sawl gwobr ac yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae hi’n darparu pecynnau dodrefn sydd wedi cael eu rhoi gan aelodau o’r cyhoedd ar gyfer y rheini sy’n byw mewn tlodi ac sy’n ceisio trechu digartrefedd. Mae’r pecynnau’n cynnwys popeth sydd ei angen er mwyn dechrau eto mewn cartref newydd. Ers 2014, mae’r elusen wedi dodrefnu 400 o gartrefi yn llawn, wedi rhoi rhannau o becynnau i 205 o gartrefi eraill, ac wedi arbed 250 tunnell o ddodrefn rhag cael eu taflu i safleoedd tirlenwi.

Dr Howell Edwards

Mae Dr Howell Edwards yn un o sylfaenwyr sefydliad Plant y Cymoedd yn y Rhondda ac ef yw Cadeirydd y sefydliad ers 40 o flynyddoedd. Mae hefyd yn Gadeirydd Canolfan Awyr Agored Daerwynno, ger Ynysybwl, ac mae’n un o ymddiriedolwyr Ategi, sefydliad nid er elw sy’n rhoi gwasanaethau cymorth i oedolion anabl ac agored i niwed.

Wasem Said

Mae’n gweithio’n ddiflino gyda phobl ifanc yn yr ardal, gan eu helpu i gadw’n glir o gyffuriau a gweithgareddau gwrthgymdeithasol eraill a allai beryglu eu dyfodol. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae wedi dechrau rhedeg Tiger Bay ABC, clwb bocsio amatur a sefydlwyd yn wreiddiol gan Pat Thomas, y cyn-bencampwr bocsio pwysau canol ysgafn. Mae mwy na 300 o fechgyn a merched ifanc yn aelodau o’r clwb erbyn hyn ac mae nifer yr aelodau wedi cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae plant a phobl ifanc yn mynd yno yn aml i wneud eu hymarferion - sgipio, gwaith bag dyrnu ac ymarfer paffio - mewn dosbarthiadau rheolaidd.

Diwylliant

Academi Ffilm Blaenau Gwent

Agorodd Academi Ffilm Blaenau Gwent ym mis Mawrth 2018 a hon yw’r academi ffilm gyntaf yng Nghymru i gynnig hyfforddiant am ddim i bobl ifanc rhwng 7 a 17 oed. Mae’r Academi Ffilm yn cynnal dosbarthiadau sgriptio, actio a gwneud ffilmiau, ac mae’r tiwtoriaid yn addysgu mewn ffordd ymarferol er mwyn i bobl ifanc o bob gallu allu cymryd rhan.

Ifor ap Glyn [siaradwr Cymraeg]

Daw Ifor ap Glyn o Gaernarfon ac ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Yn 1996, roedd yn un o sylfaenwyr y cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, ac mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr, cynhyrchydd a chyflwynydd. Erbyn hyn, mae gan Cwmni Da dros 50 o weithwyr ac mae’r cwmni yn eiddo i’r gweithwyr a nhw sy’n ei reoli.

Russell T Davies

Sgriptiwr ffilmiau a chyfarwyddwr sydd wedi ennill sawl gwobr, ac a ddaeth â Dr Who yn ôl i’n sgriniau. Addasodd A VERY ENGLISH SCANDAL ar BBC 1, gan ennill Gwobr y Rose d’Or am y Gyfres Gyfyngedig a’r Ffilm Deledu Orau, a Gwobr Broadcast News am Ddrama’r Flwyddyn yn 2018. Ysgrifennodd YEARS AND YEARS, drama boblogaidd 6 rhan ar gyfer BBC One/HBO, ac mae wrthi’n ffilmio BOYS, sef drama 5 rhan a ysgrifennodd ar gyfer Channel 4.

Y Wobr Ddyngarol

Emma Lewis

Mae Emma yn Gadeirydd The Roots Foundation Wales ac yn un o sylfaenwyr yr elusen hefyd. Mae’r elusen hon yn Abertawe yn cefnogi pobl ifanc mewn gofal, pobl sy’n gadael gofal a’u gofalwyr.

Rachel Williams

Yn 2011, cafodd Rachel Williams ei saethu gan ei gŵr ar ôl iddi ddod â’u perthynas dreisgar i ben. Ers hynny, mae Rachel wedi dod yn awdur ac yn ymgyrchydd sy’n brwydro yn erbyn cam-drin domestig.

Robin Jenkins

Mae Robin yn rhedeg Atlantic Pacific, sef Prosiect Badau Achub Rhyngwladol sy’n gorff anllywodraethol. Mae’r prosiect yn ceisio dod o hyd i ardaloedd â chyfraddau boddi uchel a ble y mae trychinebau yn fwy tebygol o ddigwydd, gan roi badau achub pwrpasol iddynt.

Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Aber Instruments Ltd

Mae Aber Instruments Ltd yn dylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi miloedd o uwch-systemau i’w defnyddio yn y diwydiannau Biotechnoleg, Bragu, Ynni Bioadnewyddadwy a Biodanwyddau. Caiff llawer o’r rhain eu hallforio i dros 115 o wledydd gwahanol ledled y byd ac mae rhai o gwmnïau fferyllol a chwmnïau bragu mwyaf y byd yn gwsmeriaid iddynt.

Mae Aber Instruments Ltd yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi 43 o bobl ar draws swyddi peirianyddol, gwyddonol a gweinyddol. Mae hyn yn arwain at greu swyddi cynaliadwy o safon uchel yn yr ardal leol.

GAMA Healthcare a Phrifysgol Caerdydd

Mae partneriaeth GAMA Healthcare â Phrifysgol Caerdydd wedi arwain at dreialu cynnyrch yn glinigol. Gwneir hynny drwy ddulliau cyfnewid gwybodaeth yn ogystal â gwaith allgymorth a chyfleoedd i ddefnyddio’r cynnyrch mewn lleoliadau gofal iechyd go iawn. Mae’r cwmni yn cyflenwi cynnyrch i bob Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU.

Yr Athro David Worsley

Mae’n Is-lywydd Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n arwain prosiectau ymchwil pwysig ar ddeunyddiau ac ynni’r haul. Yn ystod ei yrfa 30­ mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r Athro Worsley wedi sicrhau mwy na £140 miliwn o gyllid ymchwil. Mae ei bortffolio grant EPSRC presennol, sydd werth dros £55 miliwn, yn un o bortffolios mwyaf y DU, ac mae’n sbarduno llawer o bartneriaethau yng Nghymru.

Chwaraeon

Alun Wyn Jones

Un o bersonoliaethau chwaraeon mwyaf llwyddiannus y byd, y blaenwr clo sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau, a’r chwaraewr rygbi rhyngwladol sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau i Gymru. Ef oedd capten Cymru pan enillodd y tîm y Gamp Lawn yn 2019, ac ef aeth â thîm Cymru i rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Japan.

SportCheer Wales

Mae Tîm Codi Hwyl Gallu Ymaddasol Cymru yn dîm o athletwyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl sy’n gweithio gyda’i gilydd i gystadlu ym mhencampwriaethau codi hwyl y byd. Nod y tîm yw cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon codi hwyl (cheerleading).

Tîm Trawsblaniadau Cymru

Fe wnaeth y tîm hwn gymryd rhan yng Ngemau Trawsblaniadau Westfield Health yng Nghasnewydd yn 2019, gan ennill cyfanswm o 35 o fedalau. Mae pob aelod o’r tîm yn unigolion sydd wedi cael trawsblaniad.

Person Ifanc

Alexander Anderson

Daw Alex o Gasnewydd ac mae wedi gwneud llawer o waith gwirfoddol, gan roi o’i amser i helpu achosion sy’n agos at ei galon, fel ymweld â phobl hŷn yn ardal Caerllion a’u diddanu drwy ganu’r piano.

Yn ystod yr amser hwn, mae hefyd wedi ennill amrywiaeth o gymwysterau drwy fod yn rhan o’r Cadetiaid Awyr. Cafodd Alex Wobr Diana am Ysgogi Newid yn 2017, ac ef yw llysgennad Cymru ar gyfer y sefydliad. Mae’n rhoi sgyrsiau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, ac mae’n eiriolwr dros bobl eraill â’r cyflwr.

Michael Bryan

Mae Michael yn 18 oed a chollodd ei dad i glefyd Parkinson’s ac yntau’n 8 oed. Ers hynny, mae Michael wedi bod yn ddigartref ac wedi bod mewn gofal. Er hyn, mae ganddo agwedd gadarnhaol iawn at fywyd o hyd. Bu Michael yn gwirfoddoli yn y cartref nyrsio lle cafodd ei dad ofal, ac roedd yn mwynhau gwrando ar straeon y cleifion hŷn yno. Datblygodd fenter gymdeithasol i helpu i roi diagnosis cynnar i bobl â chlefyd Parkinson’s. Mae wedi dysgu codio ac wedi creu ap sy’n mapio wyneb claf. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer elusen iechyd genedlaethol.

Tyler Ford [Siaradwr Cymraeg]

Mae Tyler yn 11 oed ac mae wedi ennill pencampwriaeth bocsio cic y byd sawl gwaith, yn ogystal ag ennill tair medal aur yng ngemau Crefft Ymladd y Byd (World Martial Arts).