Y Prif Weinidog yn cyhoeddi £2m i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau
First Minister announces £2m for Ely & Caerau Children’s Centre
Disgwylir i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau gael ei thrawsnewid gan bron i £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau a chynyddu'r ddarpariaeth gofal plant i deuluoedd lleol.
Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan y cyhoeddiad ar ymweliad â'r Ganolfan Blant yng Nghaerdydd gyda Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer, wrth iddo lansio Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU.
Bydd y buddsoddiad yn cynyddu lleoedd gofal plant llawnamser o 85 i 105 ac yn ailfodelu ac yn adnewyddu'r ganolfan yn gyfan gwbl, gan greu ystafell gymunedol newydd ac ardal bwrpasol ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant estynedig.
Hwb sy'n cael ei ymddiried a'i ddefnyddio gan y gymuned leol yw'r ganolfan, sy'n darparu cymorth gan fentrau allweddol Llywodraeth Cymru, yn eu plith Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Braint go iawn yw cyhoeddi'r cyllid hwn ar gyfer y Ganolfan Blant yma yn Nhrelái – y man lle ges i fy magu, a'r gymuned sydd wedi siapio pwy ydw i heddiw.
"Wrth dyfu i fyny yma, fe nes i sylweddoli'n gynnar nad yw'r gwahanol lwybrau y mae pobl yn eu cymryd mewn bywyd yn cael eu penderfynu gan allu, ond gan gyfleoedd a chefnogaeth. Gall hynny wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd o gysur a diogelwch, ac un o ansicrwydd, ac ofn am ddyfodol eich teulu.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid rydw i wedi'i gyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl sy'n defnyddio'r ganolfan, gan ddarparu mwy o leoedd gofal plant o ansawdd uchel fel bod mwy o blant yn cael dechrau gwell mewn bywyd."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Fel Cyngor, rydym yn croesawu'n gynnes y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n cryfhau ymrwymiad Caerdydd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
"Mae'n caniatáu inni nid yn unig gynnal ond hefyd wella ein gwaith partneriaeth gyda darparwyr gofal plant cofrestredig Caerdydd i gynyddu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o ansawdd uchel. Mae hefyd yn sicrhau y bydd y gwaith o gyflwyno'r cynnig hwn yn raddol o fudd i bob cymuned ledled y ddinas yn y pen draw."
Nodiadau i olygyddion
- The funding is being provided through the Welsh Government's Childcare and Early Years Capital Programme for 2025-2028, which supports the expansion of high-quality, accessible childcare provision across Wales.
- The children’s centre provides the Welsh Government’s flagship Flying Start programme, where families are eligible for funded high quality childcare for 12.5 hours a week for 2- to 3-year-olds and wider parenting support.
- It also offers both the Foundation learning and Childcare elements of the Childcare Offer for Wales – enabling eligible parents of 3 and 4 year olds to work or study through the provision of a combined 30 hour a week funded support for 48 weeks of the year.
- The Ely & Caerau Children's Centre provides childcare in both Welsh and English
- The refurbishment is due to be completed by March 2028 and forms part of Cardiff Council's wider plans to create a Wellbeing Village on the former Michaelston College site. The children’s centre scheme is a central element of the local authority’s wider Ely regeneration project, delivering 265 new homes through the Cardiff Living housing development programme, and creating new facilities for all ages, in the heart of the local community.
- Cardiff Council will receive the funding across three financial years from 2025-26 to 2027-28.