Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal coronafeirws
First Minister announces latest coronavirus travel restrictions
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau na chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd o gyfraddau coronafeirws uchel y DU o 6pm yfory (dydd Gwener 4 Rhagfyr).
Bydd rheoliadau coronafeirws Cymru’n cael eu diwygio i wahardd teithio i ac o ardaloedd haen tri yn Lloegr; ardaloedd lefel tri a phedwar yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ei chyfanrwydd gan ei bod o dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd.
Bydd canllawiau teithio newydd yn cael eu cyhoeddi yn cynghori pobl yng Nghymru’n gryf i beidio â theithio i rannau eraill o’r DU sydd â lefelau coronafeirws is – ardaloedd haen un a dau yn Lloegr neu ardaloedd lefel un a dau yn yr Alban – i helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Bydd rhaid i bobl o Gymru gadw at unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol, gan gynnwys cyfyngiadau ar deithio, sydd mewn grym mewn rhannau eraill o’r DU.
Bydd yr holl gyfyngiadau ar deithio yn y DU yn cael eu hatal rhwng 23 a 27 Rhagfyr i alluogi pobl i gwrdd ag aelodau o’u swigen Nadolig. Bydd pobl sy’n teithio i Ogledd Iwerddon, ac oddi yno, yn cael teithio y diwrnod cyn y cyfnod hwn, a’r diwrnod wedyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru ond bydd rhaid inni osod rhai cyfyngiadau ar deithio ar draws ffiniau i’r rhannau hynny o’r DU lle mae cyfraddau heintio yn uchel, er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.
“Rydym hefyd yn cynghori pobl yng Nghymru i beidio â theithio i’r rhannau o Loegr a’r Alban lle mae’r gyfradd heintio yn is, i helpu i’w hatal rhag mynd â coronafeirws gyda nhw.
“Nid yw coronafeirws yn parchu ffiniau – mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ddiogelu Cymru a’r DU. Meddyliwch yn ofalus am lle rydych chi’n mynd a beth rydych chi’n ei wneud. Mae’r feirws yn ffynnu pan fyddwn ni’n ymgynnull â phobl eraill.
“Ynghyd â’n mesurau eraill, bydd y cyfyngiadau hyn ar deithio yn helpu i ddiogelu pob un ohonom.”
Mae’r cyfyngiadau teithio’n debygol o aros mewn grym tan o leiaf Ionawr 2021, ond byddant yn cael eu hadolygu’n gyson.
Bydd teithio rhyngwladol yn parhau i gael ei gyfyngu gan y rheoliadau cwarantîn, sy’n debygol o barhau i fod ar waith tan fis Ionawr o leiaf ac a fydd yn cael eu hadolygu'n gyson.