Y Prif Weinidog yn diolch i wirfoddolwyr ac yn lansio cronfa newydd i helpu i adfer o’r coronafeirws
First Minister thanks volunteers and launches new fund to help coronavirus recovery
Heddiw, aeth y Prif Weinidog Mark Drakeford i Eglwys St Thomas yng Nghaerffili i ddiolch i’r Parchedig Ddeon Aaron Richards a’i wirfoddolwyr lu, sydd wedi cefnogi’r rhai mewn angen yn sgil pandemig y coronafeirws.
Sefydlwyd prosiect CARE (Church Assistance Request in an Emergency) ar 23 Mawrth i ddanfon parseli bwyd, siopa a meddyginiaeth, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol i unrhyw un yn ardal cod post CF83 a oedd angen help ychwanegol.
Ers hynny, mae dros 100 o wirfoddolwyr – o bobl ifanc i bensiynwyr – wedi ateb miloedd o alwadau ffôn a danfon miloedd o barseli bwyd, gan helpu cannoedd o bobl.
Mae’r ymweliad yn cyd-daro â lansiad cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu sefydliadau gwirfoddol i ddarparu cymorth hanfodol i helpu i adfer o COVID-19. Bydd Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol ar agor i geisiadau o ddydd Llun (17 Awst) ymlaen, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb cymdeithasol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig y coronafeirws.
Bydd y gronfa newydd yn cymryd lle Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, a gyflwynwyd ar y cyd â CGGC, sydd wedi rhoi 156 o grantiau gwerth dros £7.1 miliwn ers ei lansio ym mis Mawrth. Roedd prosiect CARE yn un o’r rhai a gefnogwyd, gan elwa o grant gwerth £43,000 i osod llinellau ffôn a gwasanaethau TG hanfodol ac i gynnal cyflogau gweinyddwr a rheolwr gweithrediadau.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Er bod pandemig y coronafeirws wedi bod yn gyfnod anodd inni i gyd, mae ein gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi bod yn oleuni yn y tywyllwch.
“Mae hi wedi bod yn fraint dod yma heddiw a chwrdd â’r Parchedig Ddeon a’r tîm o wirfoddolwyr. Mae prosiect CARE yn fenter ardderchog sy’n llawn pobl gymwynasgar a ymatebodd yn gyflym a gyda chalon gynnes, er yr amgylchiadau heriol.
“Hoffwn ddiolch i bawb yn CARE a’r holl wirfoddolwyr ledled Cymru am y gwaith a’r cymorth amhrisiadwy yr ydych wedi’i ddarparu wrth ymateb i argyfwng y coronafeirws. Os ydych yn sefydliad gwirfoddol sydd am barhau i ddarparu cymorth, gwnewch gais i Gronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol drwy CGGC.”
Dywedodd y Parchedig Ddeon Aaron Richards:
“Rydym yn falch iawn bod y Prif Weinidog wedi dod i’n gweld ym mhrosiect CARE yn Ymddiriedolaeth Plwyf Bedwas, Machen, Llanfihangel-y-fedw a Rhydri.
“Mae’r ymweliad wedi bod yn galondid mawr i’n holl wirfoddolwyr yma. Mae tua 100 ohonynt, o bob oed, ac maent wedi bod yn darparu cymorth ymarferol i ardal sy’n cynnwys tua 15,000 o bobl ers mis Mawrth. Mae’n rhoi anogaeth wych inni fod y gwahaniaeth y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth yn lleol ac yn genedlaethol. Rydym wedi’n syfrdanu gan gefnogaeth yr ardal leol sydd wedi cyfrannu arian a bwyd, ond hefyd amser ac egni i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Rydym hefyd wedi cael hwb mawr gan grant drwy Lywodraeth Cymru a sefydliadau elusennol eraill a oedd yn ystyried bod ein gwaith yn hanfodol i liniaru canlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol pandemig y coronafeirws.
“Bydd ein helusen nawr yn rhoi blaenoriaeth i feithrin cadernid yn ein cymunedau a pharhau i gynnig cymorth ymarferol wrth inni addasu ein bywydau i’r normalrwydd newydd yr ydym ar fin ei ddarganfod wrth i’r genedl geisio adfer o’r cyfnod clo.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt:
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) drwy gydol pandemig COVID-19, gan helpu elusennau a sefydliadau’r trydydd sector i ehangu ac addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion penodol y cyfnod heriol hwn.
“Mae elusennau, sefydliadau’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i COVID-19, ac ni fydd ein cymorth i’r sector gwirfoddol yn dod i ben yma.”