English icon English

Y Prif Weinidog yn llongyfarch prentisiaid ar eu gwaith cyn gêm Cymru ac Iwerddon

First Minister congratulates try-hard apprentices ahead of Wales v Ireland clash

Wrth i’r Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol ddirwyn i ben, cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfarfod â phrentisiaid Undeb Rygbi Cymru a oedd yn hyfforddi dosbarth o ferched o Academi Ummul Mumineem, yng Nghaerdydd, i chwarae rygbi cadair olwyn.

Daw’r ymweliad ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddechrau’r wythnos ei bod ar y trywydd cywir i ragori ar y targedau i gyflwyno 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, ar gyfer pob oed, yng Nghymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

Mae dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno ei rhaglen brentisiaethau yn wahanol i ddull Llywodraeth y DU yn Lloegr. Yn ôl y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru yn llygad ei lle drwy fabwysiadu dull gwahanol. Roedd adroddiadau’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ym mis Mawrth 2019 yn dangos bod nifer y rhai sy’n dechrau prentisiaeth yr ochr draw i’r ffin wedi syrthio 25 y cant mewn dwy flynedd.

Un rheswm pam mae rhaglen Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus yw’r ymrwymiad sydd ynddi i gynnig cyfle cyfartal a chymorth ychwanegol i’r rheini sydd ei angen. Mae hyn yn bosibl diolch i fecanweithiau wedi’u teilwra’n benodol, fel y rheini sy’n cael eu disgrifio yn y Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau.  

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Rydyn ni am i Gymru arwain y byd pan mae’n dod i brentisiaethau. Drwy fuddsoddi mewn sgiliau lefel uwch a chanolbwyntio ar gyfle cyfartal, gallwn sicrhau tegwch, llenwi unrhyw fylchau, a chreu gweithlu cadarn, hapus ac amrywiol. Mae rhaglen wych Undeb Rygbi Cymru yn dangos bod ein buddsoddiad a’n tactegau yn talu ar eu canfed yn barod.


“Mae wir wedi bod yn anhygoel cael gwylio disgyblion Ummul Mumineem yn chwarae rygbi cadair olwyn. Dw i’n ddiolchgar bod gennym ni brentisiaid o safon mor uchel yn gweithio yn ein cymunedau, sy’n meithrin rhwydweithiau drwy’r gamp rydyn ni’n rhagori ynddi yng Nghymru ...rygbi!”

Dywedodd Martyn Phillips, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru: “Mae ein prentisiaid ni yn aelodau allweddol o weithlu’r Undeb ar draws Cymru. Maen nhw’n cael profiad ymarferol o hyfforddi rygbi mewn cymunedau cyfoethog ac amrywiol iawn. 

“Hon yw’r bumed flwyddyn inni gynnal y cynllun prentisiaethau hynod lwyddiannus hon sy’n caniatáu i bobl ifanc ennill arian wrth iddyn nhw ddysgu. Mae’r prentisiaid yn ennill NVQ Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon, yn ogystal â chymwysterau eraill sy’n benodol i rygbi. Ers inni ddechrau ein rhaglen brentisiaethau, mae drysau wedi agor i’r holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan, a hefyd i ni fel cyflogwr.”

--Diwedd--

Nodiadau i olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominique Lyons yn swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru ar 03000 25 8099.