English icon English

Y Prif Weinidog yn ymweld â stiwdio Sex Education Netflix i gyfarfod prentisiaid y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi

First Minister visits Netflix’s Sex Education studio to meet Welsh Government backed apprentices

Bu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â set cyfres Sex Education Netflix i gwrdd â phrentisiaid a hyfforddeion ac i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi pedwerydd tymor y sioe lwyddiannus.

Mae Sex Education yn gyfres ddrama-gomedi sy'n dilyn bywydau myfyrwyr, staff a rhieni yn ysgol uwchradd ffuglennol Moordale.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dwy allan o dair cyfres olaf y ddrama boblogaidd yn ariannol, drwy Cymru Greadigol. Cafodd y tair cyfres flaenorol gymorth logistaidd drwy wasanaeth Sgrîn Cymru.

Ers sefydlu Cymru Greadigol ym mis Ionawr 2020, mae £12.8m o gyllid cynhyrchu wedi cael ei ddyfarnu'n llwyddiannus i 19 o brosiectau gan greu dros £139m o wariant cynhyrchu yn Economi Cymru.

Mae'r sioe wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar economi Cymru ac mae'n cynnig cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent, gyda hyfforddeion yn cael eu cyflogi ar bob cyfres. Bydd y tymor hwn yn cynnig 11 lleoliad arall i hyfforddeion. Ar draws y pedwar tymor, mae dros 60 o rolau wedi'u creu ar gyfer hyfforddeion. At hynny, mae rhai hyfforddeion o gyfresi cynharach hefyd wedi dychwelyd fel criw llawn amser mewn cyfresi dilynol, gan helpu i ddatblygu sylfaen y criw ymhellach yng Nghymru.

Fel rhan o'i buddsoddiad ym maes cynhyrchu teledu a ffilm, mae Llywodraeth Cymru yn pennu bod yn rhaid i bob cynhyrchiad a gefnogir ymrwymo i ddarparu lleoliadau hyfforddi â thâl ar gyfer hyfforddeion sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.  Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn rhoi cymorth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i waith neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fusnesau ledled Cymru ymrwymo i'r Warant i Bobl Ifanc drwy gynnig cyfleoedd o ran lleoliadau profiad gwaith, a chyfleoedd i gael blas ar waith, prentisiaethau, neu gyflogaeth.

Gan siarad yn ystod ei ymweliad â set Sex Education, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi Sex Education, un o gyfresi mwyaf llwyddiannus y diwydiant yng Nghymru ac un o lwyddiannau mwyaf Netflix yn fyd-eang.

“Mae'r cyfleoedd sy'n cael eu darparu gan y cynhyrchiad yn dangos yr ystod o gynlluniau a rhaglenni sydd ar gael drwy’r Warant i Bobl Ifanc.

"Mae pobl ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol, ac ni fydd cenhedlaeth goll yma o ganlyniad i'r pandemig”.

Dywedodd un o'r prentisiaid, Charles Strider o Gynllun Rhannu Prentisiaeth CRIW:

“Mae hwn yn gyfle nid yn unig i ddysgu ar gynhyrchiad ond bydd hefyd yn agor y drws i mi ddatblygu fy ngyrfa yn ystod y blynyddoedd i ddod.

“Rydw i eisiau aros yng Nghymru a pharhau i fod yn rhan o'r diwydiant hwn sy’n tyfu yr ydw i mor gyffrous i fod yn rhan ohono”.

Dywedodd Jamie Campbell, Cyfarwyddwr Creadigol Eleven a Chynhyrchydd Gweithredol Sex Education:

"Rydym wrth ein boddau bod Sex Education yn dychwelyd i Gymru eleni am ei phedwaredd gyfres hirddisgwyliedig. Mae'r wlad yn gartref i rai o dirweddau mwyaf syfrdanol y byd, sy'n creu profiad teledu cofiadwy ac unigryw i’r gwylwyr.

"Drwy ffilmio Sex Education, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Netflix a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc greadigol drwy brentisiaethau a hyfforddiant. Yn ei dro, rydym yn gobeithio sbarduno twf ar draws diwydiannau creadigol Cymru a hyrwyddo'r wlad fel cyrchfan ffilmio o ddewis.”