Y rheol ‘aros yn lleol’ yn dod i ben yng Nghymru
Stay local to be lifted in Wales
Bydd yr angen i aros yn lleol yn Nghymru yn dod i ben ar 6 Gorffennaf. Cadarnhawyd hynny heddiw (dydd Gwener 3 Gorffennaf) gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog fod yr amgylchiadau yng Nghymru yn golygu bod modd i’r rheol ynghylch aros yn lleol ddod i ben ddydd Llun. Ond, mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pawb am bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd a pharchu’r lleoedd a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw
Felly, bydd angen i bobl wneud yn siŵr eu bod yn chwilio am wybodaeth ymlaen llaw cyn ymweld ag ardal, mynd i rywle arall os yw’n brysur yno a’r meysydd parcio’n llawn, sicrhau nad ydynt yn gadael sbwriel, a dangos parch at drigolion lleol.
Yn ogystal, mae’r rheoliadau coronafeirws yn cael eu newid er mwyn caniatáu i deuluoedd ddod ynghyd o ddydd Llun, wrth i’r syniad o aelwydydd estynedig gael ei gyflwyno. Bydd hyn yn galluogi pobl o ddwy wahanol aelwyd i ddod at ei gilydd i greu un aelwyd estynedig.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn syrthio, diolch i’n hymdrechion ni oll gyda’n gilydd i leihau lledaeniad y feirws. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu parhau i newid y rheoliadau coronafeirws.
“Ddydd Llun, bydd y rheol ynghylch aros yn lleol yn dod i ben ac fe fyddwn ni’n gwneud newidiadau i’r rheoliadau er mwyn galluogi pobl o ddwy wahanol aelwyd i ddod at ei gilydd i greu un aelwyd estynedig.
“Bydd llawer o bobl yn croesawu’r newidiadau hyn gan eu bod yn golygu llacio rhagor ar y cyfyngiadau – ond nid yw hynny’n golygu bod y coronafeirws wedi diflannu. Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i barhau i wneud y pethau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i ledaeniad y feirws.
“Felly, bydd raid inni barhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus ble rydyn ni’n mynd a pham, er mwyn gweithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn i ddiogelu Cymru.”
O dan y trefniadau newydd, o ddydd Llun 6 Gorffennaf:
- Ni fydd y gofyniad cyfreithiol i aros yn lleol (a’r canllawiau cysylltiedig ynglŷn ag aros o fewn pum milltir yn fras) yn berthnasol mwyach.
- Ni fydd cyfyngiadau ar deithio, ond ni fydd darparwyr llety gwyliau yn cael agor – mae darparwyr sy’n cynnig llety hunangynhwysol yn paratoi i agor o 11 Gorffennaf.
- Bydd pobl o ddwy wahanol aelwyd yn cael dod ynghyd i greu un aelwyd estynedig. Ond dim ond un aelwyd estynedig y cânt fod yn rhan ohoni.
- Bydd raid i bawb a fydd yn ymuno â’r aelwyd estynedig fod yn perthyn i un o’r ddwy aelwyd sydd wedi creu’r aelwyd estynedig.
- Bydd raid i’r aelwyd estynedig gadw’r un aelodau ar gyfer y dyfodol agos.
- Os bydd un aelod o aelwyd estynedig yn cael symptomau coronafeirws, bydd raid i’r aelwyd gyfan hunanynysu - nid dim ond y bobl sy’n byw gyda’i gilydd.
- Rydym yn cynghori’r aelwyd estynedig i gadw cofnodion i helpu gyda’r broses o olrhain cysylltiadau os digwydd i aelod o’r aelwyd honno gael canlyniad positif i brawf coronafeirws.
Daw’r newidiadau yn sgil adolygiad statudol rheolaidd Gweinidogion Cymru o’r rheoliadau coronafeirws, gan ddefnyddio tystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE), Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Yn yr adolygiad nesaf ar 9 Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried amryw o opsiynau penodol ar gyfer agor y sector lletygarwch (tafarndai a bwytai) yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf, llety gwyliau hunangynhwysol o 11 Gorffennaf a gwasanaethau trin gwallt drwy apwyntiad.