English icon English
pexels-gustavo-fring-4254165-2

Y sector tai cymdeithasol i osod Cymru ar y llwybr i ddatgarboneiddio miloedd o gartrefi a hybu adferiad economaidd gwyrdd

Social housing sector to set Wales on the path to decarbonise thousands of homes and boost green economic recovery.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r golau gwyrdd a £10m arall i raglen newydd fawr a fydd yn trawsnewid tai cymdeithasol ledled Cymru, yn rhoi hwb i'r economi ac yn agor y drws i ddiwydiant newydd yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth bron i £20m, mae'r Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio (ORP) yn rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd – fel y nodir yn yr adroddiad Ad-drefnu Covid: Heriau a Blaenoriaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, bydd ORP yn dwyn ynghyd Gymdeithasau Tai a chynghorau ar brosiectau a fydd yn helpu i uwchraddio o leiaf 1,000 o gartrefi cymdeithasol presennol drwy gymysgedd o ddeunyddiau a thechnolegau ynni effeithlon newydd.

Yn wahanol i fentrau twf gwyrdd neu ôl-ffitio eraill sy'n canolbwyntio ar un agwedd yn unig ar y tŷ ar y tro, mae ORP yn ystyried y deunyddiau y mae ein cartrefi wedi eu gwneud ohonynt, y ffordd rydym yn cynhesu ac yn storio ynni yn ein cartrefi a'r ffordd y caiff ynni ei gyflenwi i'n cartrefi.

Bydd rhai o'r uwchraddio sydd i'w treialu mewn prosiectau ORP sydd ar y gweill yn cynnwys gosod pympiau gwres newydd, systemau ynni deallus a phaneli solar. Mae adeiladau sydd oddi ar y grid nwy sy'n gallu bod yn anodd ac yn ddrud i'w gwresogi hefyd yn ganolbwynt i'r rhaglen hon.

Bydd y mesurau hyn nid yn unig yn helpu tenantiaid a'r amgylchedd drwy leihau faint o garbon a gynhyrchir mewn cartrefi wrth eu pweru a’u gwresogi ond byddant hefyd yn allweddol i helpu i leihau tlodi tanwydd a datblygu'r sgiliau a'r cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Bydd manteision llawer ehangach a phellgyrhaeddol i economi Cymru hefyd. Wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno ar draws tai cymdeithasol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, bydd hyn yn arwain at greu swyddi lleol, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau a chadwyni cyflenwi fel rhan o ddiwydiant ôl-ffitio newydd i Gymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r sector Addysg Bellach i weld sut y gall gefnogi'r diwydiant newydd hwn, gyda'r uchelgais o agor academïau ôl-ffitio newydd ledled Cymru i sicrhau bod digon o bobl â'r sgiliau cywir i gefnogi'r diwydiant newydd hwn. 

Bydd y rhaglen yn datblygu'r economi werdd leol ac yn cyfrannu at ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio pob un o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050. Rhagwelir y gallai hyn arwain at gynifer â 15,000 o swyddi  yng Nghymru.

Un prosiect sy'n gobeithio cael cyllid yw consortia o 26 o Landlordiaid Cymdeithasol. Bydd y consortia'n gweithio nid yn unig i wella cartrefi ledled Cymru ond yn profi'r ffordd y caiff gwres ac ynni eu cynhyrchu, eu storio a'u cyflenwi a datblygu fframweithiau llafur a deunyddiau arloesol sydd â'r nod o greu 'economi werdd' drwy uwchsgilio busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr Cymru. Dengys tystiolaeth fod 32.6 o swyddi'n cael eu creu neu eu cefnogi am bob £1.4 mil o fuddsoddiad mewn ynni domestig effeithlon.

Er mwyn cefnogi arloesedd yn y Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio, gwahoddwyd landlordiaid cymdeithasol i wneud cais am gyllid o hyd at £0.5m ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi. Gwahoddwyd ceisiadau i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau o dderbyn defnyddwyr i wella effaith ôl-ffitio. Y gobaith yw y bydd prosiectau llwyddiannus yn gwella'r llif o syniadau arloesol i gyflymu datgarboneiddio a helpu i dyfu cadwyni cyflenwi yng Nghymru. 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Ein nod fel llywodraeth yw sicrhau Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach. Mae'r gwerthoedd hyn yn parhau mor ddilys heddiw ag yr oeddent cyn y pandemig. Credwn mai dim ond un rhan o'n cynlluniau ar gyfer adferiad gwyrdd yw'r Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio, gan greu economi carbon isel i Gymru, lleihau tlodi tanwydd a mynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Mae'n ymwneud â llawer mwy na chynllun untro yn unig. Mae hwn yn ddull a allai greu diwydiant ôl-ffitio cynaliadwy, hirdymor sy'n cefnogi miloedd o swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddi wrth inni weithredu i gyrraedd ein targedau carbon ar gyfer 2050. .

Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio yn gosod y safon ar gyfer cynlluniau ôl-ffitio yng Nghymru a bydd yn rhagflaenu dull gweithredu a diwydiant i ddatgarboneiddio pob un o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cael y dull gweithredu'n iawn yn gyntaf. Nid yw taflu arian at y broblem yn gweithio a gall olygu gosod mesurau anaddas nad ydynt yn iawn i'r tŷ, ddim yn gweithio ac sy’n gorfod cael eu newid mewn ychydig flynyddoedd.

Mae Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio yn seiliedig ar ymchwil gydag Ysgol Bensaernïaeth Cymru a'r argymhellion yn 'Cartrefi Gwell, Gwell Cymru, Gwell Byd' a gyhoeddwyd yn 2019. Mae wedi arwain at greu dull llawer mwy soffistigedig a phwrpasol sy'n osgoi problemau'r gorffennol.

Bydd y rhaglen hon yn profi dulliau gwahanol o uwchraddio cartrefi er mwyn cyflawni nod cartrefi sy'n ddi-garbon gan gynnwys adeiladu heb nwy lle mae heriau datgarboneiddio hyd yn oed yn fwy. Ni fydd pob un o'r cartrefi hyn wedi cyflawni hyn erbyn mis Mawrth 2021 ond byddant yn ein gosod ar y llwybr cywir tuag ato."

"Er ei fod yn canolbwyntio i ddechrau ar y sector tai cymdeithasol, bydd sefydlu diwydiant ôl-ffitio hirdymor yn arwain at y gallu i ôl-ffitio'r sector tai preifat gan roi'r gallu, y cyfle a'r cymhelliant i berchnogion ôl-ffitio eu cartrefi."

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae ôl-ffitio cartrefi yn hanfodol i ddarparu cartrefi gwell, creu cannoedd o swyddi, a sefydlu cadwyni cyflenwi newydd.

"Bydd y Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio yn ysgogi diwydiant ôl-ffitio newydd, gan roi hwb gwirioneddol i economi Cymru. Mae gan y cynllun hwn y potensial i ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat, helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd a darparu cyfleoedd hyfforddi pwysig. Bydd arloesi yn rhan allweddol o hyn drwy dechnegau newydd a ffyrdd o ddefnyddio deunyddiau.

"Yn ogystal ag agor y drws i ddiwydiant newydd, bydd cadwyni cyflenwi lleol ledled Cymru yn cael eu cryfhau o'r galw sy’n cael ei greu drwy ôl-ffitio cartrefi cymdeithasol."

Dywedodd Chris Jofeh, Cadeirydd Grŵp Cynghori Annibynnol Llywodraeth Cymru a gynhyrchodd 'Cartrefi Gwell, Gwell Cymru, Gwell Byd':

"Rwy'n croesawu y Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio yn fawr. Daw gyda chyllid trawsadrannol, sydd i mi'n arwydd pwerus nid yn unig o gefnogaeth ond hefyd o feddwl cydgysylltiedig o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd dull Cymru o dreialu syniadau ac yna rhannu'r hyn sy’n cael ei ddysgu yn creu sylfaen gref ar gyfer datgarboneiddio preswyl yng Nghymru."

DIWEDD