Y Senedd yn pasio deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tomenni o orffennol glofaol a diwydiannol Cymru
Senedd passes legislation to ensure safety of tips from Wales’s mining past
Mae Bil sy'n 'gam hanfodol' yn y broses o amddiffyn cymunedau Cymru rhag tomenni nas defnyddir, boed yn rhai glo ac yn rhai di-lo, wedi cael ei basio heddiw gan y Senedd.
Bydd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig yn creu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru i fynd i'r afael â risgiau diogelwch a achosir gan orffennol diwydiannol Cymru.
Bydd yr Awdurdod newydd yn dod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru gyda phwerau i:
- Sicrhau nad yw tomenni glo a thipiau di-lo nas defnyddir bellach yn fygythiad i gymunedau trwy ansefydlogrwydd
- Sefydlu system gynhwysfawr ar gyfer asesu, cofrestru, monitro a rheoli pob tomen nas defnyddir
Yn sgil y bleidlais llwyddiannus yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam hanfodol yn y broses o amddiffyn cymunedau Cymru.
"Rydym wedi gweld effaith ansefydlogrwydd tomenni yn dilyn achosion o dywydd eithafol, gan gynnwys y tirlithriad mawr yn Tylorstown yn ystod stormydd Ciara a Dennis ym mis Chwefror 2020, ac yn fwy diweddar yng Nghwmtyleri yn 2024 ar ôl storm Bert,"Mae gennym bellach ddeddfwriaeth gadarn ar waith a dull strwythuredig o reoli tomenni glo a di-lo nas defnyddir i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i'n cymunedau.
"Mae Cymru yn arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn a sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Mae gan Gymru dreftadaeth lofaol y mae'n falch ohoni, ac mae gwaddol y dreftadaeth honno i'w gweld ar draws ein tirwedd heddiw. Mae 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, ac er eu bod yn bennaf yng nghymoedd y De, mae'r mater hwn yn effeithio ar Orllewin a Gogledd Cymru, ac amcangyfrifir bod 20,000 o domenni eraill nas defnyddir (hy. tomenni nad ydynt yn domenni glo) yng Nghymru.
Mae gwaith eisoes ar y gweill o ran sefydlu'r Awdurdod, ac rydym yn ystyried lleoliad yr Awdurdod, ei systemau a'i brosesau llywodraethu i sicrhau bod pob agwedd ar y Bil yn cael sylw ac yn cael ei gyflawni.
Bydd y broses benodi ar gyfer Cadeirydd a Phrif Weithredwr yn dechrau cyn bo hir a bydd y ddau yn y swydd cyn i'r Awdurdod gael ei sefydlu'n ffurfiol ar 1 Ebrill 2027.
"Yn y cyfamser, mae rhaglen waith diogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi ac yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a threfn gwaith cynnal a chadw ledled Cymru."
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â gwaith ar domenni nas defnyddir, drwy'r cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo. Mae hyn yn cynnwys gwaith ariannu y gallai'r awdurdod lleol ei wneud ar domenni sydd dan berchnogaeth breifat.
Ar 20 Mawrth 2025, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn darparu £34 miliwn yn 2025-26 i'n partneriaid cyhoeddus ymgymryd â gwaith ar 130 o domenni glo ledled Cymru – bydd hyn yn mynd a'r buddsoddiad y tu hwnt i £100m yn nhymor y Senedd hon.
Bydd y dyraniad ychwanegol a gadarnhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu y bydd dros £220m wedi'i fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo.