Y Senedd yn pleidleisio dros reolau newydd ynghylch hyrwyddo bwyd sy'n gysylltiedig â gordewdra
Senedd votes on new rules promoting foods linked to obesity
Mae'r Senedd wedi pasio rheolau newydd ynghylch sut a ble y gellir hyrwyddo bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr a'u harddangos mewn siopau mawr ac ar-lein.
Nod y rheoliadau yw atal prynu'r bwydydd hyn yn fyrbwyll a'u gorfwyta a byddant yn helpu i fynd i'r afael â'r lefelau gordewdra sy'n codi yng Nghymru.
Bydd Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu'r rheolau sydd eisoes ar waith yn Lloegr, yn gwneud y canlynol:
- Cyfyngu ar hyrwyddo mewn ffordd sy’n gallu annog pobl i orfwyta, fel cynigion i brynu sawl eitem am bris llai ac i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim
- Cyfyngu ar gyflwyno bwyd sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn y lleoliadau gwerthu gorau mewn siopau, fel wrth y fynedfa a’r mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau
- Eu gwneud yn berthnasol i fusnesau canolig a mawr sydd â 50 neu ragor o weithwyr
Mae ymchwil yn dangos bod hyd at 83% o enghreifftiau o brynu ar sail cynnig arbennig yn digwydd pan fydd pobl wedi’u cymell yn sydyn i wneud hynny. Yn ogystal â hynny, mae bron i hanner (43%) o’r cynnyrch bwyd a diod mewn lleoliadau amlwg mewn siopau yn hyrwyddo bwyd a diod llawn siwgr.
Yn dilyn y bleidlais yn y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles: “Mae’r rheoliadau hyn yn rhan allweddol o'n strategaeth i fynd i’r afael â’r broblem gordewdra sy'n gwaethygu yng Nghymru.
"Rwy'n falch eu bod wedi'u cymeradwyo gan y Senedd, gan y byddant yn cael effaith fawr ar iechyd ein cenedl am flynyddoedd i ddod.
"Rydyn ni eisiau ei gwneud hi'n haws i bobl wneud dewisiadau iachach a byddwn ni'n cyflawni hyn drwy wella'r amgylchedd bwyd sydd o'u cwmpas nhw. Os allwn ni sicrhau bod bwyd a diod iachach ar gael yn haws, bod pobl yn gallu cael gafael arnyn nhw a’u bod yn fwy amlwg i bobl yn y siopau, bydd hyn yn cefnogi'n hymdrechion i leihau cyfraddau gordewdra a gwella iechyd y cyhoedd."
Nodiadau i olygyddion
The regulations will come into force in March next year following a 12-month implementation period.