Y Senedd yn pleidleisio i wahardd rasio milgwn yng Nghymru i ddiogelu lles anifeiliaid
The Senedd votes to ban Greyhound racing in Wales to protect animal welfare
Heddiw, mae'r Senedd wedi pleidleisio o blaid diogelu milgwn yng Nghymru rhag niwed rasio. Bydd y Bil yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.
Ar ôl cyfnod pontio i ganiatáu i'r diwydiant ddirwyn i ben yn gyfrifol, cryfhau trefniadau ailgartrefu ar gyfer milgwn sy’n ymddeol, a pharatoi cyrff gorfodi ac awdurdodau lleol ar gyfer y newid, bydd y gwaharddiad yn dod i rym rhwng 1 Ebrill 2027 a 1 Ebrill 2030.
Mae'r Bil yn adlewyrchu dewis polisi clir: nid oes modd cyfiawnhau'r anafiadau, y marwolaethau, na'r canlyniadau gwael sy'n gysylltiedig â rasio milgwn mwyach. Er gwaethaf ymdrechion o fewn y diwydiant, mae niwed i filgwn wedi parhau i fod yn realiti cyson.
Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: "Mae Cymru'n genedl flaengar, sydd wedi ymrwymo i safonau moesegol a deddfwriaeth flaengar. Mae'r Bil hwn yn cryfhau ein henw da fel arweinydd ar les anifeiliaid ac yn cyflawni'r safonau y mae gan bobl Cymru hawl eu disgwyl."
Cyfrannodd miloedd o aelodau o'r cyhoedd, ymgyrchwyr a rhanddeiliaid at lunio'r ddeddfwriaeth hon drwy ymgyrchoedd, deisebau a thystiolaeth bersonol. Mae eu lleisiau wedi bod yn ganolog i'w datblygiad.