Y tu mewn i'r hwb yn Abertawe sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac yn rhoi pobl hŷn yn gyntaf
Inside the Swansea hub tackling loneliness and putting older people first
Mae gofod cymunedol a agorodd flwyddyn yn ôl yng nghanol dinas Abertawe bellach yn helpu pobl hŷn y ddinas i gysylltu ag eraill, aros yn egnïol a chymryd rhan yn eu cymunedau.
Ymwelodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, â'r Cwtsh Cydweithio yn Abertawe ddoe i weld drosti'i hun sut mae Grant Cymunedau Oed-gyfeillgar Llywodraeth Cymru yn helpu pobl hŷn.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau wythnosol ar gael yn yr hwb ar gyfer pobl 50 oed a hŷn, gan gynnwys Tai Chi, sesiynau sgiliau digidol ar ddydd Mawrth, boreau coffi LHDTC+, teithiau cerdded cymdeithasol a digwyddiadau cymunedol. Bwriad y gweithgareddau hyn yw mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, ond maent hefyd yn helpu pobl i heneiddio'n iach, yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, ac yn darparu gwybodaeth a chyngor hanfodol.
Mae'r gweithgareddau wedi'u datblygu mewn partneriaeth agos â phobl hŷn, gan adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau, nid dim ond ar eu cyfer nhw.
Mae sesiynau "Heneiddio'n Dda" hefyd ar gael yn ddyddiol, lle y mae swyddogion, arweinwyr gwasanaethau a sefydliadau partner yn bresennol ynddynt. Mae'r sesiynau'n helpu pobl hŷn i wneud cysylltiadau dibynadwy â gwasanaethau a chymorth y gallai fod eu hangen arnynt, gan roi dull ataliol a chymorth cynnar ar waith.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Dawn Bowden:
"Mae'r hyn a welais heddiw yn y Cwtsh Cydweithio yn dangos yn union sut mae cymunedau oed-gyfeillgar yn gweithio yn ymarferol. Yn ogystal â manteisio ar y gwasanaethau, mae'r bobl hŷn yma yn eu siapio nhw hefyd. Dyna'r safon rydyn ni eisiau ei gweld ledled Cymru."
Ers 2021, mae Cymru wedi buddsoddi cyllid gwerth £3.8 miliwn i helpu cymunedau oed-gyfeillgar, ac mae 12 awdurdod lleol bellach yn aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Mae Abertawe ar y trywydd iawn i ymuno â nhw.
Mae model Cymru o gael strategaeth drawsbynciol ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, Comisiynydd Pobl Hŷn a chymorth ariannol pwrpasol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cymunedau oed-gyfeillgar, wedi'i nodi gan Sefydliad Iechyd y Byd yn enghraifft o arfer dda yn rhyngwladol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymorth Cymunedol, Hayley Gwilliam:
"Bob wythnos mae dros 500 o bobl yn mynychu digwyddiadau Heneiddio'n Dda yn Abertawe sy’n cynnwys grwpiau cerdded hynod boblogaidd, bowlio, canu neu gyfleoedd i gyfarfod am sgwrs a phaned o de.
"Roeddwn yn falch o'r cyfle i groesawu'r Gweinidog i'r Cwtsh Cydweithio iddi gael clywed yn uniongyrchol sut mae'r gweithgareddau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl hŷn trwy greu cyfleoedd i gymdeithasu."