Y wybodaeth ddiweddaraf gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ar lefel rhybudd y DU
Update from the UK Chief Medical Officers on the UK alert level
"Mae'r Ganolfan Bioddiogelwch ar y Cyd wedi argymell y dylai lefel rhybudd COVID-19 symud o Lefel 3 (mae epidemig COVID-19 yn cael ei ddosbarthu'n gyffredinol) i Lefel 4 (mae epidemig COVID-19 yn cael ei ddosbarthu'n gyffredinol; trosglwyddo yn uchel neu'n codi'n gynt).
"Mae Prif Swyddogion Meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi adolygu'r dystiolaeth ac yn argymell y dylai pedair gwlad y DU symud i Lefel 4.
"Ar ôl cyfnod o achosion a marwolaethau COVID is, mae nifer yr achosion bellach yn codi'n gyflym
mewn rhannau sylweddol o bob un o'r pedair gwlad. Os ydym am osgoi marwolaethau ychwanegol sylweddol a phwysau eithriadol ar y GIG, a gwasanaethau iechyd eraill, dros yr hydref a'r gaeaf mae'n rhaid i bawb ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb yn gywir a golchi eu dwylo'n rheolaidd. Gwyddom y bydd hyn yn newyddion sy'n peri pryder i lawer o bobl; dilynwch y rheolau, gofalwch am ei gilydd a gyda'n gilydd gallwn mynd drwy hyn."
Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty
Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, Dr Michael McBride
Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Gregor Smith
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones