English icon English

Ymateb gwerth £2.4 biliwn gan Lywodraeth Cymru i COVID-19, gan gynnwys £640 miliwn i fusnesau

£640m reaches businesses in £2.4bn Welsh Government Covid-19 response

Bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn amlinellu’r camau eithriadol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i ymrwymo mwy na £2.4 biliwn i argyfwng y coronafeirws pan fydd y gyllideb atodol yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen heddiw.

Mae’r ymdrech ariannol sylweddol yma nid yn unig wedi darparu mwy na £750m i gyllido ymateb ein GIG a’r gwasanaethau cyhoeddus, helpu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol, buddsoddi mewn profi ac olrhain a recriwtio ar gyfer y GIG, ond mae wedi helpu hefyd i ddarparu’r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU.             

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n dangos bod mwy na 52,000 o grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £640m wedi’u talu i fusnesau yng Nghymru, sydd hefyd yn elwa ar rhyddhad ardrethi drwy’r pecyn £1.4 biliwn a gyhoeddwyd fis Mawrth.

Mae’r Gweinidog Cyllid wedi galw hefyd ar Lywodraeth y DU i lacio’r ‘rheolau ariannol llym sy’n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gyfeirio mwy o adnoddau er mwyn ymateb i COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae’r ymateb ariannol digynsail yma wedi sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gefnogaeth orau bosibl ar unwaith i wasanaethau cyhoeddus a busnesau Cymru a’r rhai mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng hwn.                     

“Mae’n gwbl briodol ein bod ni wedi cael ein harwain gan ymdeimlad o’r hyn sy’n deg, pan fo pwysau mor enfawr ar arian cyhoeddus. Dyma pam rydym ni wedi mynd y tu hwnt i’r cyllid rydym wedi’i dderbyn gan Lywodraeth y DU er mwyn darparu cefnogaeth wedi’i thargedu - o gyllido prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau i ddarparu’r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU.     

Mae llawer o heriau o’n blaen o hyd ac mae ein gallu i ymateb yn cael ei gyfyngu gan y rheolau ariannol llym sy’n cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU. Bydd llacio’r rheolau ar gyfer y ffordd rydym yn rheoli ein cyllideb a’r swm y gallwn ei fenthyca yn rhyddhau adnoddau y mae eu gwir angen ar gyfer y rhengoedd blaen yn yr argyfwng hwn.

“Byddaf yn parhau i annog Trysorlys EM i ddatrys y broblem hon ac, wrth i ni edrych ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau’r achos yn erbyn unrhyw fwriad i ddychwelyd at bolisi di-hid o gyni.”