Ymateb Llywodraeth Cymru i Ystadegau'r Farchnad Lafur diweddaraf - Mawrth 2026

Welsh Government response to latest Labour Market Statistics – March 2026

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

“Mae tystiolaeth o ystod o ffynonellau yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU ers y pandemig. Mae’r ffigurau diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5%, o’i chymharu â 4.2% yn y DU. Mae hefyd yn dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru yn gymharol agos at ei lefel uchaf erioed.

“Rydym wedi mynd ati i gyflawni ar ran busnesau, cymunedau a degau o filoedd o weithwyr ledled Cymru wrth inni adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach – gan gefnogi mwy na 50,000 o swyddi yn ystod tymor y Senedd hon drwy raglenni busnes.

“Fel yr ydym wedi’i ddweud o’r blaen, rydym yn dyfynnu’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol oherwydd pryderon ynghylch dibynadwyedd data’r Arolwg Llafur. Yn wir, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ei hun yn cynghori bod angen bod yn ofalus wrth gymryd yr ystadegau hyn fel yr unig fesur o’r farchnad lafur yng Nghymru. I sicrhau mwy o gywirdeb, argymhellir defnyddio ystod o ffynonellau, tra bo’r ONS yn datblygu arolwg newydd.”