English icon English

Ymateb y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates i gyhoeddiad y Canghellor ar gefnogaeth i'r hunangyflogedig.

Wales' Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates reacts to the Chancellor's announcement on support for the self-employed

Mae'r Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates wedi ymateb i gyhoeddiad y Canghellor ar gefnogaeth i'r hunangyflogedig

Dywedodd y Gweinidog:

“Rwyf yn croesawu’n gynnes cyhoeddiad y Canghellor heno. Bydd yn darparu rhyddhad enfawr i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru sy'n hunangyflogedig.

Wrth gwrs, mae manylion yn dod i'r amlwg ynglŷn â sut y bydd y cynllun yn gweithredu a byddwn yn edrych yn agos iawn ar ba fylchau sydd yna y gall unigolion ddisgyn drwyddynt.

Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae'r gronfa draws-sector, traws-Lywodraeth y byddwn yn ei chyhoeddi ar frys yn y dyddiau nesaf yn cyd-fynd yn ddi-dor â'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw ar gyfer yr hunangyflogedig a'r Cynllun Cadw Swyddi a gyhoeddwy wythnos diwethaf.