English icon English
WG positive 40mm-2

Ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Awst a Medi 2024

Cabinet Secretary response to latest NHS Wales performance data: August and September 2024

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

“Ry'n ni wedi gwneud mynd i'r afael ag amseroedd aros hir yn flaenoriaeth i ni a heddiw rwy'n cyhoeddi £28 miliwn yn ychwanegol i helpu byrddau iechyd i leihau’r arosiadau hiraf.

“Bydd y cyllid newydd yn talu am fwy o apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, clinigau sy'n gallu ymdrin â mwy o gleifion, a mwy o weithio'n rhanbarthol i dargedu'r amseroedd aros hiraf mewn arbenigeddau fel orthopedeg, offthalmoleg, llawdriniaeth gyffredinol a gynaecoleg.

“Bydd yr ymyriadau hyn yn cael effaith sylweddol ar bobl sy'n aros am driniaeth, profion ac apwyntiadau cleifion allanol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ffigurau misol hyn ar gyfer amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gwella wrth i'r buddsoddiad hwn gael ei adlewyrchu ym mherfformiad y GIG.

"Er gwaethaf y lefelau uchaf erioed o alw ar draws y sector, mae ffigurau heddiw yn dangos rhywfaint o gynnydd mewn diagnosteg a therapïau, yn ogystal â pherfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod gan gynyddu i 56.5%.

“Mae gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau aruthrol, gyda'r niferoedd dyddiol ail uchaf erioed o alwadau ‘coch’ (lle mae bywyd yn y fantol) yn cael eu hadrodd a phwysau parhaus mewn adrannau argyfwng.

“Fodd bynnag, ymatebodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i'r ail nifer uchaf erioed o bobl yn y categori coch o fewn wyth munud.

“Ac er bod gweithgarwch mewn cyfleusterau gofal argyfwng yn parhau i fod yn agos at y lefelau uchaf erioed, roedd derbyniadau i'r ysbyty fwy na 5% yn is na’r un adeg y llynedd, sy’n awgrymu bod cynlluniau i gefnogi mwy o bobl i osgoi arhosiad yn yr ysbyty yn cael effaith.

“Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i gefnogi pobl ag anghenion gofal mewn argyfwng yn y gymuned ac i ryddhau pobl o'r ysbyty'n fwy prydlon i helpu i leihau arosiadau hir mewn ambiwlansys ac yn yr adrannau argyfwng eu hunain.

“Mae ein hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi yn cefnogi pobl i gael y gofal iawn ar yr adeg iawn gan y gwasanaeth iawn.”