Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata Perfformiad a Gweithgaredd diweddaraf y GIG: Medi a Hydref 2025
Health Secretary response to latest NHS Activity and Performance data: September and October 2025
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, yn ymateb i ddata perfformiad a gweithgaredd diweddaraf GIG Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Rwy'n falch bod y buddsoddiad o £120 miliwn a gyhoeddais ym mis Mehefin i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Erbyn diwedd mis Hydref, mae'r cyllid hwn wedi arwain at fwy na 41,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu. Cafodd 14,800 o apwyntiadau cleifion allanol pellach eu darparu yn ystod dau benwythnos cyntaf mis Tachwedd.
"Ym mis Hydref, cafodd 43% yn llai o oriau eu colli wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans ac roedd 42% yn llai o achosion o oedi o fwy nag awr y tu allan i adrannau brys, o'i gymharu â'r llynedd.
"Mae hyn yn golygu bod criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i bobl sy'n profi ataliadau ar y galon o fewn yr amser ymateb. Mae amseroedd ymateb ar gyfer cleifion yn y categori oren wedi gwella hefyd – 23 munud yn llai na mis Hydref 2024.
"Ond rwy'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud.
"Ddydd Mercher, cyhoeddais fesurau pellach i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella ei berfformiad ym maes gofal argyfwng a gofal wedi'i gynllunio.
"Er gwaethaf rhai arwyddion o welliannau ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig ym mis Chwefror 2023, mae heriau sylweddol a pharhaus yn parhau.
"Mae'r camau sy'n cael eu cymryd yn angenrheidiol i sicrhau bod pobl yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu. Ddoe, cynhaliais gyfarfod atebolrwydd cyhoeddus gyda'r bwrdd iechyd yn y Gogledd – lle gwnaethom ei ddal yn atebol am y targedau o ran amseroedd aros; ei sefyllfa ariannol a'i ragolygon; ac ansawdd a diogelwch.
"Rwyf hefyd yn gwybod bod llawer o waith gwych yn digwydd ledled Cymru a hoffwn ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd am eu hymroddiad a'u hymdrechion parhaus."