
Ymateb Yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Chwefror a Mawrth 2025
Health Secretary response to latest NHS Wales performance data: February and March 2025
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
“Rwy'n falch o weld gostyngiad sylweddol yn yr amseroedd aros hiraf ac o weld bod maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol.
“Mae hyn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys triniaeth gyflymach a chynyddu capasiti'r GIG, drwy gofleidio ffyrdd newydd o weithio.
“Mae'r ymdrechion hyn wedi cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad ychwanegol o £50m.
“Mae gennyn ni ragor o waith i'w wneud o hyd i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol, ond mae'n galonogol gweld amseroedd aros yn gostwng yn gyson.
“Mae amseroedd aros dwy flynedd wedi gostwng i'w lefelau isaf ers mis Mehefin 2021 ac roedden nhw fwy na 26% yn is o'i gymharu â'r mis blaenorol.
“Mae nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol ac mae bron 28% yn is na'r brig ym mis Awst 2022.
"Roedd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros 36 wythnos a'r amser aros ar gyfartaledd am driniaeth yn is na'r mis blaenorol.
“Mae gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng ledled Cymru yn parhau i fod yn hynod o brysur.
“Ym mis Mawrth roedd bron 5,400 o alwadau ‘coch’ lle'r oedd bywyd yn y fantol i'r gwasanaeth ambiwlans, 9% yn uwch na'r lefel uchaf blaenorol o alw ar gyfer mis Mawrth.
“Serch hynny, roedd yr amser ymateb cyfartalog yn llai nag wyth munud a chafwyd ymateb i dros 80% o alwadau o fewn 15 munud.
“Gostyngodd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am wasanaethau diagnostig o'i gymharu â'r mis blaenorol, ac roedd gwelliant mewn perfformiad hefyd yn erbyn yr amser aros hiraf targed ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapïau.
“Fe wellodd perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod o ran canser ym mis Tachwedd, gan gynyddu i 60%, tra dechreuodd 1,800 o bobl driniaeth canser a chafodd dros 13,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser.
“Cyflawnwyd gwelliant sylweddol ym mis Mawrth o ran lleihau cyfanswm nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty gyda gostyngiad o 114 oedi dros y mis blaenorol.
"Dyma oedd y ffigur oedi isaf dros y flwyddyn ddiwethaf a'r isaf ond un yn gyffredinol ers inni ddechrau adrodd am hyn ddwy flynedd yn ôl.”