English icon English
WG positive 40mm-2 cropped-2

Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Ebrill a Mai 2025

Health Secretary response to latest NHS Wales performance data: April and May 2025

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi cyhoeddi £120 miliwn i ariannu cynllun i ddileu amseroedd aros hir a lleihau maint y rhestr aros eleni.

Nid oes gan fwrdd iechyd Bae Abertawe na bwrdd iechyd Powys unrhyw lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd ac nid oes neb yn aros blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf yno. Mae gan fwrdd iechyd Hywel Dda a bwrdd iechyd Aneurin Bevan lai na 300 o lwybrau cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, sef llai nag 1% o'r bobl ar eu rhestrau aros.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer uchaf o lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth yng Nghymru.

Mae data perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (19 Mehefin), yn cwmpasu gofal a gynlluniwyd tan ddiwedd mis Ebrill, ac yn cynnwys cyfnod gwyliau'r Pasg.

Er bod twf yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth o'i gymharu â ffigurau mis Mawrth, mae amseroedd aros hir bellach 86% yn is na phan oedd yr amseroedd ar eu hiraf. Ffigur mis Ebrill yw'r ail isaf ers mis Ebrill 2021.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Siomedig yw gweld y twf mewn amseroedd aros hir ym mis Ebrill ar ôl yr holl gynnydd y mae byrddau iechyd wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.

"Er hynny, rydyn ni'n gweld y tuedd yma bob mis Ebrill yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

"Dyma pam rydyn ni'n gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn darparu gofal wedi'i gynllunio ac yn buddsoddi £120 miliwn i leihau amseroedd aros eleni.

"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at ofal, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl gael triniaeth cyn gynted â phosibl.

"Bydd y cyllid newydd hwn yn golygu mwy o apwyntiadau, profion a thriniaethau cyflymach dros y flwyddyn nesaf.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd drwy fynd i'w hapwyntiad a gwneud yn siŵr eu bod yn iach ac yn barod i gael triniaeth."

Dechreuodd bron i 2,000 o bobl eu triniaeth ar gyfer canser a chafodd ychydig o dan 15,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser ym mis Ebrill. Mae'r ddau ffigur hyn yn cynrychioli cynnydd ers mis Mawrth.

Mae gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng yn parhau i weld nifer mawr o bobl. Dyma'r mis Mai prysuraf erioed i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda'r nifer uchaf o alwadau coch, lle'r oedd bywyd yn y fantol ar gofnod. Serch hynny, roedd yr amser ymateb canolrifol yn union wyth munud a chafwyd ymateb i dros 80% o alwadau o fewn 15 munud.

Mae perfformiad adrannau achosion brys yn parhau i fod yn sefydlog a'r amser cyfartalog ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion oedd dwy awr a 46 munud ar draws yr holl gyfleusterau gofal argyfwng.

Mae pobl yn cael eu hannog i ffonio GIG 111 am gyngor i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir, a hynny gan y gwasanaeth GIG cywir ar gyfer eu hanghenion.