English icon English

Ymdrech drawsffiniol newydd i gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth Môr Iwerddon

New cross-border effort to strengthen Irish Sea transport links

Bydd tasglu newydd sy'n canolbwyntio ar wella gwytnwch cysylltiadau trafnidiaeth Môr Iwerddon yn cynnal ei gyfarfod cyntaf y dydd Iau hwn.

Sefydlwyd y tasglu mewn ymateb i gau porthladd Caergybi dros dro yn ddiweddar, ac amlygodd bwysigrwydd hanfodol cynnal llwybrau môr dibynadwy rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd y grŵp yn trafod sut rydym yn cryfhau'r cysylltiadau hanfodol a'r cyfleusterau porthladd yng Nghaergybi a lleoliadau allweddol eraill sy'n gwasanaethu cymunedau ar draws y ddwy wlad.

Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn arwain y gwaith, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Seán Canney.

Mae'r tasglu yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o lywodraethau Cymru ac Iwerddon, yn ogystal â llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmniau porthladdoedd, cwmnïau fferi, a chynrychiolwyr y diwydiant logisteg. Bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn tynnu ar arbenigwyr ychwanegol ar gyfer themâu penodol.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae'r llwybrau môr hyn rhwng Cymru ac Iwerddon yn hanfodol ar gyfer masnach, twristiaeth a chysylltu ein gwledydd a'n cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau a chroesawu ein cydweithwyr Gwyddelig i Ynys Môn. Trwy ddod â phartneriaid allweddol o ddwy ochr Môr Iwerddon at ei gilydd, gallwn ddatblygu atebion ymarferol i wneud y cysylltiadau hyn yn fwy gwydn yn erbyn heriau cynyddol tywydd garw ac aflonyddwch posibl eraill."

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans: "Mae cysylltiadau trafnidiaeth cryf, dibynadwy ar draws Môr Iwerddon yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Bydd y grŵp hwn yn adeiladu'n rhagweithiol ar y cydweithrediad llwyddiannus a welsom yn dilyn gorfod cau angorfeydd fferi yn ddiweddar ac yn helpu i sicrhau bod ein porthladdoedd yn gallu addasu i amodau newidiol, gan barhau i gefnogi busnesau a swyddi mewn cymunedau arfordirol a thu hwnt."

Bydd y cyfarfod cyntaf yn sefydlu cylch gorchwyl a phrif themâu y tasglu.