English icon English
black-and-grey-keys-792034-3

Ymestyn y cyfnod hysbysu dros dro ar gyfer achosion o droi allan yn diogelu pobl rhag dod yn ddigartref

Temporary increase in the notice period for eviction will provide greater protection against homelessness

Heddiw, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, y bydd ymestyn y cyfnod hysbysu dros dro ar gyfer achosion o droi allan yn diogelu tenantiaid mewn llety cymdeithasau tai neu denantiaid yn y sector rhentu preifat rhag dod yn ddigartref.

Mae’r newid, sy'n dod i rym heddiw, yn golygu y bydd hawl gan denantiaid i gael chwe mis o rybudd mewn achos o droi allan, yn hytrach na thri mis o rybydd, oni bai bod y tenant yn cael ei droi allan ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y cyfnod o chwe mis yn gymwys i bob hysbysiad sy’n cael ei roi i denantiaid tan o leiaf ddiwedd mis Medi.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r argyfwng presennol wedi cael effaith ar bawb, ond rydym yn gwybod ei fod wedi cael mwy o effaith ariannol ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a llawer o’r rhain yn denantiaid yn y sector rhentu preifat.

“Mae’n hanfodol bwysig nad oes neb sy’n rhentu yng Nghymru yn cael eu gorfodi o’u cartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r mesurau hyn, sy’n rhai dros dro, yn mynd i sicrhau bod llai o bobl yn wynebu bod yn ddigartref o ganlyniad i achos o droi allan, a hynny ar adeg pan fo awdurdodau lleol yn llai abl i ymateb i’r sefyllfaoedd hyn, gan roi mwy o sicrwydd i’r rhai sy’n rhentu cartrefi. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i’r rhai sydd mewn perygl o gael eu troi allan i geisio dod o hyd i gymorth er mwyn datrys unrhyw broblemau.”

Er bod y newidiadau hyn yn gymwys i’r rhai sy’n rhentu cartrefi gan landlordiaid preifat a chymdeithasau tai, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod eu tenantiaid hwythau yn elwa ar yr un sicrwydd.

Hefyd, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod tenantiaid yn cael cymorth i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent sydd wedi digwydd oherwydd pandemig y coronafeirws.

Ychwanegodd Julie James:

"Er bod y newidiadau hyn yn cynnig mwy o ddiogelwch i denantiaid, nid ydynt yn esgus i bobl beidio â thalu eu rhent os ydynt yn gallu gwneud hynny, ac i beidio â mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae'n hollbwysig cael sgwrs gynnar gyda landlordiaid i ganfod ffordd ymlaen, yn ogystal â chael y cyngor cywir ynghylch dyledion. Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi £1.4m ychwanegol mewn gwasanaethau cynghori i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i feithrin gallu ariannol ac i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. "

Nodiadau i olygyddion

  • The increase in notice periods has been implemented using powers of the Welsh Ministers under the Coronavirus Act 2020.
  • The changes apply to assured and assured shorthold tenancies which comprise the vast majority of tenancies granted in the private rented sector and by housing associations. They are granted under the Housing Act 1988.
  • Separate consideration will be given to extending the period during which the temporary notice periods apply beyond the 30th
  • Eviction proceedings against tenants in social and private rented accommodation have been suspended in courts in England and Wales until August 23rd.
  • Separately, the UK government has amended the Civil Procedure Rules so that when proceedings resume, all landlords will be required to provide information to the court regarding the impact of COVID-19, and any general vulnerability of the tenant. This is to assist the court in exercising its discretion in deciding whether to make a possession order. However, in relation to the ‘no fault’ (section 21) and serious rent arrears grounds under the 1988 Act, the court is obliged to make a possession order where the ground is made out. Since the Practice Direction can only be of limited effect in such cases, the changes to notice periods in Wales are designed to provide further protection to tenants.