English icon English
mYsMgD2A.jpeg-2

Ymestyn y tymor gwyliau i hybu busnesau twristiaeth.

Extending the holiday season to boost tourism businesses.

Mae canfyddiadau Baromedr COVID-19 Busnesau Twristaieth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos, er bod Cymru wedi cael ychydig o wythnosau prysur iawn yn croesawu gwesteion, mae angen cyfnod estynedig o wyliau gartref drwy’r hydref i hybu busnes.   

Mae canlyniadau y Baromedr yn dangos bod 78% o fusnesau ar agor gyda 51% o’r rhain yn gweithredu’n llawn.  Er bod 80% o fusnesau hunanddarpar ar agor yn llawn, 43% o lety â gwasanaeth sydd ar agor yn llawn ac mae’r ffigur yn is ar gyfer atniadau, hosteli a darparwyr gweithgareddau. 

Mae 11% o fusnesau sydd ar agor wedi cael mwy o gwsmeriaid ers ail-agor na fyddent wedi ei gael fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, ac mae 45% wedi cael yr un faint.  Fodd bynnag, roedd gan 44% lai o gwsmeriaid nag arfer.  Mae hyn yn gysylltiedig â llai o gapasiti i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel na’r galw gan gwsmeriaid.   

Mae dros hanner busnesau twristiaeth Cymru wedi cofrestru ar gyfer safon y diwydiant ‘Barod Amdani’ a nod defnyddwyr.  Mae dros 5,000 o fusnesau yng Nghymru gellach wedi cofrestru. 

Gall y busnesau hyn ddangos eu bod yn cadw at ganllawiau y Llywodraeth a iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi sicrhau eu bod wedi sefydlu y prosesau gofynnol i gadw’n lân ac i helpu gyda pellter cymdeithasol, ac felly roi’r hyder i ymwelwyr, staff a chymunedau bod eu gwyliau yn ddiogel. 

Cyn gŵyl y banc, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cadarnhau yr angen i ymwelwyr, busnesau a chymunedau gydweithio i gadw Cymru yn ddiogel gan ddweud: “Dim ond drwy i bawb chwarae eu rhan a chymryd cyfrifioldeb personol am ein gweithredoedd allwn ni barhau i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

“I unigiolion, golyga hyn gadw pellter o ddwy feter o eraill, golchi dwylo yn aml a gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.   Ar gyfer busnesau, golyga hyn gymryd camau i warchod cwsmeriaid, gan gynnwys cymryd eu manylion cyswllt fel y gallwn ddod i wybod am unrhyw achosion.  Rydym am i bawb yng Nghymru deimlo y gallant fwynhau gŵyl y banc – yn ddiogel.” 

Mae rhai ardaloedd o Gymru yn parhau i fod yn brysur iawn ac mae pobl yn cael eu hannog i gynllunio eu hymweliad, bod yn barod i newid eu cynlluniau os fydd lleoliadau yn rhy brysur a pharchu’r tirwedd a chymunedau lleol drwy beidio â gadael sbwriel, gwersylla yn anghyfreithlon a pharcio yn anghyfreithlon. 

Mae Croeso Cymru hefyd wedi lansio ymgyrch yn annog ymwelwyr i lofnodi eu haddewid i addo i helpu i ofalu am a gwarchod y bobl a’r lleoedd y maent yn ymweld â hwy.  Mae ‘Addo - Gwna Addewid dros Gymru’ yn addewid ar-lein gan Croeso Cymru mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth. 

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas: “Er bod gwyl banc olaf yr haf ar fin ein cyrraedd, mae gan Gymru gymaint i’w gynnig yn yr hydref – a bydd cynllunio teithiau dydd a darganfod, mewn modd gyfrifol, beth sydd ar garreg ein drws yn  helpu i ymestyn y tymor ac yn cefnogi economi ymwelwyr Cymru.”