English icon English
Sarah Murphy MS Minister for Mental Health and Wellbeing

Ymgynghoriad ar godi'r isafbris alcohol yng Nghymru

Consultation on raising minimum alcohol price in Wales

Gallai nifer y bobl sy’n yfed mewn modd niweidiol gael ei leihau gan bron i 5,000 o ganlyniad i gynlluniau i godi’r isafbris uned alcohol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar barhau â'r isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru y tu hwnt i fis Mawrth 2026, a chodi'r pris uned o 50c i 65c.

Nod y polisi, a ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Mawrth 2020, yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau'r defnydd o alcohol ymysg pobl sy'n yfed mewn modd peryglus a niweidiol.

Mae'r isafbris uned wedi'i dargedu at ddiodydd cryfder uchel sy'n cael eu gwerthu am brisiau isel iawn ac sy'n cael eu hyfed mewn cyfeintiau mawr.

Mae data modelu yn awgrymu y gallai codi'r isafbris uned i 65c ostwng lefelau yfed alcohol niweidiol ymhellach, yn ogystal ag annog mwy o bobl i yfed ar lefelau cymedrol yn lle hynny.

Gallai hefyd leihau nifer y bobl sy'n yfed mewn modd peryglus fwy na 6,300 ac yfwyr niweidiol bron i 5,000, gan leihau derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau a briodolir i alcohol.

Mae yfed cyfeintiau mawr o ddiodydd alcoholig cryfder uchel yn rhoi pobl mewn perygl hirdymor o ddioddef canser, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu, a niwed i'r ymennydd.

Ni yw gosod isafbris uned ar gyfer alcohol yn gweithio ar ei ben ei hun, ond ar y cyd ag ystod eang o bolisïau iechyd yn y sector camddefnyddio sylweddau, gall gael ei dargedu tuag at atal, cefnogaeth ac adferiad a mynd i'r afael ag argaeledd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Ers inni weithredu'r isafbris uned, bu pandemig, argyfwng costau byw a chwyddiant uchel.

"Er gwaethaf y rhain i gyd, mae ymchwil trwy werthusiadau annibynnol wedi dangos bod y polisi, sydd ddim yn dreth, wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi helpu i leihau lefelau yfed niweidiol.

"Rydyn ni'n ymgynghori ar godi’r isafbris gan fod chwyddiant uchel wedi gwneud y gyfradd 50c yn aneffeithiol ac wedi lleihau ei werth mewn termau real i 39c mewn prisiau 2020.

"Oherwydd hyn nid yw bellach yn dylanwadu'n sylweddol ar bris yr alcohol rhataf, ac mae angen inni ei adolygu."

Lansiwyd yr ymgynghoriad yn gynharach yr wythnos hon, ac mae ar agor tan fis Medi 29.