Ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 yn cael eu lansio
Consultation on plans to further reduce fuel poverty by 2035 launched
Mae cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 ac i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn barod i fod yn destun ymgynghoriad.
Mae cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 ac i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn barod i fod yn destun ymgynghoriad.
Dros yr 17 mlynedd diwethaf mae ‘Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref’, ac yn fwy ddiweddar y ‘Rhaglen Cartrefi Clyd’ wedi darparu cyngor ar gyfer llawer o gartrefi ledled Cymru ac wedi gwneud gwelliannau i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Yn ôl yr amcangyfrifon ers 2008 mae’r lefelau o dlodi tanwydd wedi gostwng dros 50%, gan helpu tua 177,000 o aelwydydd i ddianc o dlodi tanwydd.
Mae’r ymgynghoriad, sy’n parhau tan 31 Rhagfyr, yn amlinellu cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035.
Mae’r cynllun yn cynnwys deg cam gweithredu i’w rhoi ar waith ar unwaith a fydd yn cael yr effaith fwyaf rhwng nawr a 2023. Disgwylir i’r cynllun, yn dibynnu ar yr ymgynghoriad cyhoeddus, gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror 2021 fan bellaf. Bydd un o’r cynigion allweddol yn gweld buddsoddiadau i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni’n parhau drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd.
Ers 2011 mae buddsoddiadau gwerth £366 miliwn drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd (hyd at Fawrth 2020) wedi gwneud dros 61,400 o gartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, ac wedi rhoi cyngor a chymorth i dros 144,800 o bobl. Mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatgarboneiddio tai er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau sero-net erbyn 2050.
Mae cynlluniau eraill yn y cynllun sydd i’w gweithredu ar unwaith yn cynnwys:
- Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwygiadau i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth, gan gynnwys amodau iechyd a phobl ar incwm is, a lefel y cymorth sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig;
- Ymgynghori ar Wasanaethau Cymorth a Chyngor ar Ynni Domestig i helpu pobl i arbed arian a lleihau faint o ynni maent yn ei ddefnyddio;
- Paratoi cynllun i wella cadernid yn ystod y gaeaf ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt, ac sydd mewn perygl o iechyd gwael y gellir ei osgoi neu o farw yn gynnar oherwydd eu bod yn byw mewn cartref oer;
- Cyhoeddi data ar ynni domestig ar gyfer Cymru bob blwyddyn i helpu i ganolbwyntio ar y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf o fyw mewn tlodi tanwydd;
- Cyhoeddi adolygiad o berfformiad tuag at gyflawni amcanion 2035, a chyhoeddi amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru.
Mae’r cynllun yn cynnwys targedau fel y gellir mesur yr amcan o sicrhau nad yw pobl yng Nghymru, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035. Byddwn ni wedi cyflawni hyn os bodlonir y meini prawf isod:
- Nid amcangyfrifir bod unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus;
- Nid amcangyfrifir bod mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw un adeg; a
- Bydd nifer yr aelwydydd sydd ‘mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd’ yn llai na hanner yr amcangyfrif ar gyfer 2018.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Er bod yr amcangyfrifon yn dangos bod lefel y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yn llai na hanner y lefel yn 2008, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod 155,000 o aelwydydd yn parhau i’w chael yn anodd fforddio byw mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.
“Mae pandemig COVID-19 yn golygu bod ein cartrefi bellach yn fwy canolog i’n bywydau pob dydd, ac rydyn ni’n defnyddio rhagor o ynni. Mae’n debyg y bydd hyn yn parhau, gyda’r posibilrwydd o filiau uwch wrth i’r hydref a’r gaeaf nesáu.
“Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru wynebu’r her hon ar ei phen ei hun. Mae gan Lywodraeth y DU lawer o’r pwerau allweddol sydd eu hangen i wneud newidiadau, a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio ein dylanwad i lywio ei gweithgareddau a’i pholisïau.
“Bydd ein cynllun newydd yn gwneud cyfraniad allweddol at ein hymdrechion i fynd i’r afael â phob math o dlodi, yn enwedig ar gyfer plant, pobl ifanc, pobl hŷn a phobl anabl. Bydd parhau i fuddsoddi yn y cymorth rydyn ni’n ei roi i bobl sy’n byw ar incwm is i wneud eu cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni yn cyfrannu at ein hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru, fel rhan o’n hymdrechon i ymateb i’r heriau sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.
“Hoffwn i annog pawb sy’n awyddus i’n helpu ni i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi tanwydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eich safbwyntiau â ni.”
Nodiadau i olygyddion
In Wales, a household is defined as being in fuel poverty if they have to spend more than 10% of their income on maintaining a satisfactory heating regime.
The consultation ‘Tackling Fuel Poverty 2020 -2035’ can be found at https://llyw.cymru/trechu-tlodi-tanwydd-2020-i-2035
The Warm Homes Programme delivers two schemes:
- The Nest scheme, which provides advice and free home energy efficiency improvements to eligible households across Wales; and
- The Arbed scheme, which provides free home energy efficiency improvements in areas most likely to be affected by fuel poverty.
Astudiaeth achos o Gynllun Nyth – Mrs Keogh, RCT (llun ar gael ar gais)
Roedd Mrs Keogh yn byw gyda system wresogi nad oedd wedi bod yn gweithio ers cryn amser. Roedd hi’n gwybod bod y system yn hen iawn, ac y byddai angen un newydd. Roedd Mrs Keogh yn bryderus ynghylch ffonio a gofyn i rywun ddod i edrych ar ei boeler, felly, ffoniodd hi Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ofyn am eu rhestr o gontractwyr cymeradwy. Ar ôl gofyn ychydig o gwestiynau, gwnaethon nhw ofyn iddi a fyddai’n iawn iddynt ei hatgyfeirio hi i Nyth, gan eu bod yn credu y byddai’n gymwys ar gyfer eu cynllun, ar sail ei hamgylchiadau.
“Ro’n i’n anfodlon iawn i ddechrau. Do’n i ddim wedi clywed am Nyth, a do’n i wir ddim yn credu y byddwn i’n gymwys. Ond y diwrnod wedyn ffoniodd Nyth a dweud byddai rhywun yn dod i’r tŷ i gynnal arolwg, ac o hynny ymlaen roedd popeth yn ddidrafferth” meddai Mrs Keogh.
Cynhaliwyd yr arolwg cychwynnol i asesu’r mesurau gorau i wella cartref Mrs Keogh o ran effeithlonrwydd ynni.
Meddai: “Roedd y syrfëwr yn hyfryd. Roedd e’n dod o’r ardal leol hefyd felly roedd yn braf cael sgwrs gyda fe. Cyn iddo fe adael eglurodd beth fyddai’n digwydd nesaf, ac ro’n i mor ddiolchgar ei bod yn bosibl gwneud hyn drwy Nyth.”
O fewn wythnos i’r arolwg gael ei gynnal, penododd Nyth un o’u contractwyr lleol, AMS Heating and Plumbing Ltd, i gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Mrs Keogh: “Roedd safon gwaith y peirianwyr o AMS yn wych. Ro’n nhw’n broffesiynol ac yn wybodus dros ben a gweithion nhw’n galed iawn – ac yn eu dwylo nhw roedd tasg anodd iawn i’w gweld yn syml. Maen nhw’n dwyn clod ar AMS a heb os byddaf yn eich argymell chi a nhw i bobl eraill. Gweithion nhw’n galed iawn i orffen y gwaith a gwnaethon nhw gadw popeth mor lân. Ro’n nhw hyd yn oed yn garedig wrtho i – ro’n i’n pryderu am bobl yn dod i’r tŷ ond ro’n nhw’n hyfryd ynghylch hynny hefyd. Gwnaethon nhw i fi deimlo’n gysurus ac ro’n nhw’n deall sut ro’n i’n teimlo. Dw i’n methu diolch iddyn nhw ddigon. Y gwir yw, ro’n i mor hapus ynghylch eu perfformiad, anfonais i e-bost atyn nhw yn dweud pa mor dda oedd safon eu gwaith a pha mor hapus ydw i.”
Pan oedd y gwaith wedi’i gwblhau cafodd y gwaith yn nhŷ Mrs Keogh ei wirio i sicrhau bod popeth wedi cael ei osod i’r fanyleb gywir ac i safon uchel. Aeth cartref Mrs Keogh o sgôr SAP o 10 i 62. Bydd hyn yn sicrhau bod Mrs Keogh yn llawer mwy cysurus a thawel ei meddwl.
Ychwanegodd hi:
“Mae delio â Nyth wedi bod mor hawdd – o’r alwad ffôn gychwynnol roedd popeth yn ddidrafferth. Gwnaethon nhw roi gwybod i fi am bopeth – a doedd dim rhaid i fi ruthro o gwmpas neu delio â phroblemau. Dyna oedd y peth gorau.”
Mae Mrs Keogh eisoes wedi gweld safon ei bywyd yn gwella:
“Mae fy nghartref yn gynhesach o lawer. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr jyst i allu troi’r tap a chael dŵr poeth. Am flynyddoedd lawer, cyn i’r system dorri’n llwyr, ro’n i wedi hen arfer â gorfod cynhesu’r dŵr am oriau – a doedd e ddim mor boeth ag y mae nawr. Mae’n wych, a dylai mwy o bobl gael gwybod am Nyth a sut gall y cynllun eu helpu nhw.”