Ymgyrch gwasanaethau canser hanfodol yn rhoi neges i gleifion: Peidiwch ag aros, peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr
Essential cancer services and support campaign urges patients: Don’t wait, don’t leave it too late
Mae gwasanaethau canser yn dal i fod ar gael yn ystod pandemig COVID-19 ac mae pobl sydd â symptomau canser posibl yn cael eu hannog i ofyn am gymorth a chyngor, meddai’r Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Mercher, 17 Mehefin).
Mae ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd parhau i ddefnyddio gwasanaethau canser hanfodol wedi’i lansio yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn osgoi eu meddygfa neu’r ysbyty oherwydd COVID-19 ond mae profion a thriniaeth ar gyfer canser ar gael ac rwyf eisiau i’r rhai sydd angen gofal a thriniaeth barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.
“Bydd y gwasanaethau yn edrych yn wahanol, gyda rhai apwyntiadau’n cael eu cynnal o bell. Os oes angen ichi fynd i gael eich gweld yna efallai y bydd clinigwyr yn gwisgo cyfarpar diogelu er mwyn lleihau risg pawb o ddal COVID-19 wrth gael eich gweld ar gyfer canser posibl neu wrth gael triniaeth ar gyfer canser.
“Rydyn ni wedi gweithio’n galed gyda’r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau y gall gwasanaethau canser barhau ond mae’r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau. Nid yw hynny’n golygu nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yno ichi ond mae’n golygu bod gofal a thriniaeth wedi gorfod addasu er mwyn eu cynnal mewn byd gyda COVID-19. Byddwn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod gwasanaethau canser yno ichi pan fydd arnoch eu hangen.”
Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Felindre: "Mae Canolfan Ganser Felindre ar agor o hyd – rydyn ni’n trin ac yn cefnogi cleifion canser heddiw fel yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y tri mis diwethaf. Mae’r feirws wedi bod yn heriol dros ben inni ond rydyn ni wedi gweithio’n gyflym i feddwl mewn ffyrdd gwahanol er mwyn parhau i ddarparu triniaeth a gofal o’r radd flaenaf i’n cleifion.
“Rydyn ni wedi manteisio ar dechnoleg newydd i gynnal y berthynas rhwng y claf a’r meddyg ac wedi cynyddu ein gwaith ar-lein i gyfeirio pobl at wasanaethau a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, sydd wrth gwrs yn bryderus. Yng nghanol hyn oll, nid wyf erioed wedi bod yn fwy balch o’n staff sydd wedi mynd yr ail filltir i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru: “Mae’n gyfnod pryderus iawn i bobl sy’n byw â chanser a’r rhai sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth. Mae’r rhain yn amgylchiadau eithriadol i wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru, sydd wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed i ymateb i heriau pandemig COVID-19.
“Rydyn ni’n croesawu’r neges glir gan Lywodraeth Cymru na ddylai neb oedi cyn cael cymorth am symptomau canser ac yma ym Macmillan rydyn ni’n annog pobl i ymateb i hynny drwy sicrhau bod unrhyw arwyddion o ganser neu symptomau yn cael eu gweld ar unwaith. Er na fydd canser gan lawer o’r bobl sy’n cael prawf, mae’n hanfodol bod symptomau yn cael eu harchwilio cyn gynted â phosibl.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn ailddechrau anfon gwahoddiadau a llythyrau atgoffa at bobl sy’n gymwys i gael eu sgrinio ar gyfer canser ceg y groth, canser y fron a chanser y coluddyn, gan ddechrau gyda Sgrinio Serfigol Cymru o ddiwedd mis Mehefin ymlaen.
Mae sgrinio yn targedu pobl sydd â risg uwch o ganser penodol ac mae’n wahanol i archwilio symptomau canser.
Os oes gennych chi symptomau posibl canser, megis newidiadau estynedig neu sylweddol i’ch iechyd corfforol, yna cysylltwch â’ch meddygfa i gael cyngor. Byddan nhw eisiau clywed gennych.
Os ydych chi wedi cael diagnosis o ganser ac wrthi’n cael triniaeth, mae’n bwysig ichi gadw mewn cysylltiad â’ch clinigydd a’ch gweithiwr allweddol i gytuno ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer eich gofal.
Os oes diagnosis o ganser eisoes wedi effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol neu’ch gallu i fwyta ac yfed, mae’n bwysig gofyn am gyngor a chymorth pellach. Mae cadw’n iach yn gorfforol, yn feddyliol ac o ran maeth, yn barod ar gyfer unrhyw driniaeth bosibl, yn helpu i leihau’r risg o sgil-effeithiau a hefyd yn eich helpu i adfer yn gynt.
Mae nawr hefyd yn amser da i roi’r gorau i ysmygu ac mae cymorth ar gael gan GIG Cymru yn www.helpafiistopio.cymru/
Mae ysbytai wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gwasanaethau mor ddiogel â phosibl. Mae apwyntiadau yn parhau i gael eu gwneud gan ei bod yn bwysig archwilio pethau ymhellach a darparu triniaeth pan fo angen.
Ni ddylai pobl sy’n pryderu am ddiogelwch fethu apwyntiadau. Yn hytrach, dylen nhw drafod â’u meddygfa neu’r ysbyty ba gamau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu cleifion.
Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael gan Gymorth Canser Macmillan. Mae’r llinell gymorth ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am ac 8pm ar 0808 808 00 00.
Mae gwybodaeth a chymorth cynhwysfawr, gan gynnwys canllawiau a chyngor diweddaraf Macmillan ar effaith y coronafeirws ar ofal canser, ar gael yn www.macmillan.org.uk
Hefyd, mae gan Gynghrair Canser Cymru gyfeirlyfr o wasanaethau ei aelodau https://walescanceralliance.org/support/?lang=cy
Mae ei gymuned ar-lein yn parhau i ddarparu cymorth emosiynol hanfodol a chymorth gan gleifion canser eraill.