Ynni glân yn cefnogi addysg a gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru
Powering education and healthcare across North Wales
- Mwy na £500,000 i ddau sefydliad yng ngogledd Cymru drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
- Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
- Bydd y cyllid yn helpu Coleg Cambria ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i leihau costau ynni a chefnogi gwasanaethau addysg ac iechyd
Mae dau sefydliad yng ngogledd Cymru ar fin elwa ar fwy na £500,000 o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn eu helpu i leihau costau ynni, torri allyriadau carbon a rhyddhau mwy o adnoddau ar gyfer myfyrwyr, cleifion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.
Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae Coleg Cambria yn defnyddio ynni glân i helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer economi fwy gwyrdd. Mae'r coleg yn gweithredu pum campws ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Yn dilyn buddsoddiad blaenorol gan Ynni Cymru ar gampws Iâl yn Wrecsam, bydd y cyllid diweddaraf yn cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy ac ynni clyfar ar gampws Northop yn Sir y Fflint. Mae'r campws yn gartref i Ganolfan Anifeiliaid Bach y coleg ac yn cefnogi cannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn sy'n astudio gofal anifeiliaid a phynciau seiliedig ar y tir, yn ogystal â bod yn gartref i dros 200 o rywogaethau.
Bydd y system newydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio data byw fel rhan o'u hastudiaethau, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ym maes ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Bydd hefyd yn lleihau costau rhedeg, gan ganiatáu i fwy o arian gael ei ail-fuddsoddi mewn addysg a chymorth i fyfyrwyr, wrth greu amgylchedd iachach i fyfyrwyr ac anifeiliaid fel ei gilydd.
Mae cyllid hefyd wedi'i ddyfarnu i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i wella effeithlonrwydd ynni mewn dau safle Gwasanaeth Gwaed Cymru yng ngogledd Cymru, yn Wrecsam a Bangor.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu tua 100,000 o roddion gwaed bob blwyddyn ac yn cyflenwi cynhyrchion gwaed i ysbytai ledled Cymru.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar, batris, pympiau gwres a mannau gwefru cerbydau trydan, gan helpu i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a chynaliadwyedd y ddau safle.
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi datblygiadau yn y dyfodol ar safle Wrecsam, gan gynnwys cyfleuster rhoddwyr arfaethedig, tra bo Bangor yn ganolfan weithredol bwysig i dimau rhoddwyr sy'n gweithio ledled gogledd Cymru. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi'r broses o drosglwyddo Gwasanaeth Gwaed Cymru i gerbydau trydan a'i gyfraniad at uchelgeisiau sero net GIG Cymru.
Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n lleihau costau ynni ac yn sicrhau buddion lleol.
Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys dau brosiect yng ngogledd Cymru, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.
Dywedodd Elis, myfyriwr Lefel 3 Rheoli Anifeiliaid yng Nghanolfan Anifeiliaid Bach Coleg Cambria:
“Rwy'n mwynhau'r cyfle i weithio gyda'r anifeiliaid a datblygu sgiliau ymarferol bob dydd.
“Mae cynaliadwyedd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, felly mae'n gyffrous gweld y coleg yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac yn lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.
“Bydd gweld y technolegau hyn ar waith o ddydd i ddydd yn dod â'n dysgu yn fyw ac yn rhoi profiad gwerthfawr inni ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Rwy'n falch iawn bod sefydliadau yng ngogledd Cymru yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.
“Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ynni glân gefnogi'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Boed hynny'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau fydd eu hangen arnynt yn y gweithle yn y dyfodol neu'n cefnogi gwasanaeth iechyd sy'n gwneud cyfraniad hanfodol at ofal cleifion ledled Cymru.
“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”