Ynni glân yn cefnogi ysgolion, elusennau a chymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Powering schools, charities and communities across RCT and Merthyr

  • £1.37 miliwn i bum sefydliad ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r pum prosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi ysgolion, sefydliadau cymunedol, elusennau a busnesau, gan eu helpu i leihau costau ynni a darparu mwy o gefnogaeth i bobl leol

Mae pum sefydliad ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar fin elwa ar fwy na £1.37 miliwn o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn helpu ysgolion, sefydliadau cymunedol, elusennau a busnesau i leihau costau ynni a rhyddhau mwy o adnoddau ar gyfer y gwasanaethau a'r bobl y maent yn eu cefnogi.

Mae'r prosiectau ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Ymhlith y prosiectau sy'n derbyn cyllid mae Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful, sydd wedi derbyn £388,840 drwy raglen Ynni Cymru. Mae'r sefydliad yn cyflogi 52 o bobl, gyda mwy na thair rhan o bedair o'i weithlu yn byw gydag anableddau, nam ar eu golwg neu rwystrau eraill i gyflogaeth.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar, system storio batris, pympiau gwres a mannau gwefru cerbydau trydan. Drwy leihau biliau ynni, gallai'r prosiect greu arbedion cyfwerth â chost cyflogi aelod ychwanegol o staff llawn amser, gan helpu i ddiogelu swyddi a chefnogi gwaith y sefydliad yn y dyfodol.

Y pum prosiect sy'n derbyn cyllid ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yw:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Rhondda Cynon Taf - prosiect awdurdod lleol yn Ysgol Nantgwyn sy'n cefnogi addysg ac ynni cymunedol
  • A Strings Limited, Trefforest - busnes manwerthu arbenigol
  • Cambrian Village Trust Ltd, Clydach-fro - sefydliad cymunedol sy'n cefnogi pobl leol a gweithgareddau cymunedol
  • The Merthyr Tydfil Institute for the Blind, Merthyr Tudful - elusen a chyflogwr sy'n cefnogi pobl anabl a phobl â nam ar eu golwg
  • Business in Focus Limited, Dowlais - menter gymdeithasol sy'n cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid lleol.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn lleihau costau ynni ac yn dod â buddion i ardaloedd lleol.

Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys pum prosiect ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod sefydliadau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“O ysgolion a sefydliadau cymunedol i elusennau a busnesau lleol, bydd y prosiectau hyn yn helpu i leihau costau ynni a sicrhau bod mwy o adnoddau'n cael eu defnyddio er budd pobl leol.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma restr o'r holl sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ynni Cymru. Bydd y rhestr ar gyfer grantiau 2026-27 yn cael ei diweddaru ar 19/10/2026 am 11pm:

https://www.llyw.cymru/ynni-cymru-grantiau-cyfalaf-ddyfarnwyd