Ynni glân yn cryfhau gwasanaethau cymunedol yn Sir Fynwy a Chaerffili

Powering community life across Monmouthshire and Caerphilly

  • Mwy na £600,000 i ddau sefydliad yn Sir Fynwy a Chaerffili drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi elusen chwaraeon gymunedol yn Sir Fynwy a chanolfan gymunedol yng Nghaerffili, gan helpu i leihau costau ynni a darparu mwy o gefnogaeth i bobl leol

Mae dau sefydliad yn Sir Fynwy a Chaerffili ar fin elwa ar fwy na £600,000 o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn eu helpu i leihau costau ynni, torri allyriadau carbon a rhyddhau mwy o adnoddau i gefnogi pobl yn eu cymunedau.

Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy, mae Wye Gymnastics and Galaxy Cheerleading yn sicrhau bod mwy o bob punt yn cael ei gwario lle mae ei hangen fwyaf. Mae'r elusen yn cefnogi mwy na 1,400 o gyfranogwyr ar draws ei gweithgareddau, gyda dros 600 o blant yn mynychu ei chanolfan bob wythnos.

Mae ei gwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i chwaraeon. Mae'n rhedeg oergell gymunedol, gofod cynnes a rhaglen Fit & Fed, yn ogystal â chefnogi pobl ifanc i symud ymlaen i wirfoddoli a chyflogaeth drwy ei rhaglen Arweinwyr Ifanc.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar, system storio batris, pympiau gwres, mannau gwefru cerbydau trydan a rheolaethau ynni deallus. Fel elusen, gall pob punt sy'n cael ei harbed ar gostau ynni gael ei hailfuddsoddi'n uniongyrchol mewn gwasanaethau cymunedol. Bydd y prosiect yn helpu i ddiogelu rhaglenni cymunedol, cadw gweithgareddau'n fforddiadwy i deuluoedd a sicrhau bod mwy o adnoddau'n aros yn y gymuned.

Yng Nghaerffili, mae Canolfan Gymunedol Glowyr Caerffili yn croesawu tua 500 o bobl bob wythnos. Wedi'i lleoli mewn adeilad oedd yn ysbyty dros ganrif yn ôl, mae'r ganolfan yn darparu ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau i bobl o bob oed.

Mae'r ganolfan yn cynnal therapïau, dosbarthiadau ymarfer corff, gweithgareddau celf a chwarae, cyfleoedd gwirfoddoli a chymorth i fusnesau bach lleol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar, system storio batris, technoleg pwmp gwres, mannau gwefru cerbydau trydan a rheolaethau ynni deallus. Nod y prosiect yw lleihau costau ynni, gwella cysur drwy'r adeilad a helpu i sicrhau dyfodol y ganolfan fel man croesawgar i'r gymuned am flynyddoedd i ddod.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn lleihau costau ynni ac yn dod â buddion i ardaloedd lleol.

Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys dau brosiect yn Sir Fynwy a Chaerffili, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd Amy Whittaker, y mae ei mab Ollie yn mynychu Wye Gymnastics and Galaxy Cheerleading:

“Mae fy mab Ollie yn awtistig ac mae angen cryn dipyn o gymorth arno, felly gall cael mynediad at weithgareddau prif ffrwd fod yn her fawr.

“Ers pum mlynedd, rydyn ni wedi bod yn mynd i WGGC, lle mae pawb yn adnabod Ollie ac yn ei dderbyn fel y mae.

“Mae'r hyfforddwyr yn deall ei anghenion, yn dathlu ei lwyddiannau ac yn gwneud iddo deimlo'n rhan o'r gymuned.

“Mae'r ganolfan yn lle diogel i ni. Yma, nid yn unig mae Ollie'n cael ei dderbyn, mae'n cael ei werthfawrogi. Rydyn ni wir yn teimlo ein bod yn perthyn.”

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod Wye Gymnastics and Galaxy Cheerleading a Chanolfan Gymunedol Glowyr Caerffili yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ynni glân gryfhau'r gwasanaethau a'r mannau sy'n dod â phobl ynghyd. Boed hynny'n helpu elusen i gefnogi plant a theuluoedd neu sicrhau bod canolfan gymunedol bwysig yn gallu parhau i groesawu pobl o bob oed am flynyddoedd i ddod.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma restr o'r holl sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ynni Cymru. Bydd y rhestr ar gyfer grantiau 2026-27 yn cael ei diweddaru ar 19/10/2026 am 11pm:

https://www.llyw.cymru/ynni-cymru-grantiau-cyfalaf-ddyfarnwyd