Ynni lleol yn grymuso cymunedau Powys

Powering Powys communities from the ground up

  • £1.19 miliwn i ddau sefydliad ym Mhowys drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau yn Llanidloes a Machynlleth, gan helpu sefydliadau lleol i leihau costau ynni a buddsoddi yn eu cymunedau

Mae dau sefydliad ym Mhowys ar fin elwa ar £1.19 miliwn o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn helpu pobl yn Llanidloes a Machynlleth i wneud mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, gan leihau costau ynni a chefnogi mentrau cymunedol.

Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Mae Clwb Ynni Lleol Ardal Llanidloes, sy'n eiddo i'r gymuned, ar fin derbyn £597,210 i helpu pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn eu hardal eu hunain. Bydd y buddsoddiad yn ariannu paneli solar newydd, system storio batris a mannau gwefru cerbydau trydan, gan alluogi aelwydydd sy'n rhan o'r cynllun i fanteisio'n well ar drydan glân a gynhyrchir yn lleol.

Disgwylir i'r cartrefi sy'n cymryd rhan arbed tua £368 y flwyddyn ar eu biliau ynni drwy ddefnyddio mwy o drydan lleol a lleihau eu dibyniaeth ar y grid cenedlaethol. Rhagwelir hefyd y bydd y prosiect yn cynhyrchu oddeutu £14,000 y flwyddyn i gefnogi gweithgareddau a mentrau cymunedol, gan sicrhau bod manteision ynni adnewyddadwy yn aros yn lleol.

Ym Machynlleth gyfagos, bydd Dulas Cyf yn defnyddio'r cyllid i osod rhagor o baneli solar a phympiau gwres yn ei bencadlys. Bydd y prosiect yn lleihau'r defnydd o danwydd ffosil ac yn helpu i ddarparu trydan a gynhyrchir yn lleol i aelwydydd sy'n rhan o Glwb Ynni Lleol Machynlleth.

O ganlyniad, bydd mwy o bobl yn gallu elwa ar ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu yn eu hardal eu hunain.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n lleihau biliau ynni ac yn sicrhau buddion lleol.

Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys dau brosiect ym Mhowys, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod sefydliadau ym Mhowys yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall cymunedau gymryd mwy o reolaeth dros eu dyfodol ynni eu hunain, gan gadw mwy o arian yn lleol a helpu aelwydydd a sefydliadau i leihau eu costau.

“O Lanidloes i Fachynlleth, bydd y buddsoddiad hwn yn helpu mwy o bobl i elwa ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, gan gefnogi mentrau cymunedol a chryfhau'r economi leol.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma restr o'r holl sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ynni Cymru. Bydd y rhestr ar gyfer grantiau 2026-27 yn cael ei diweddaru ar 19/10/2026 am 11pm:

https://www.llyw.cymru/ynni-cymru-grantiau-cyfalaf-ddyfarnwyd