Yr adolygiad o drafnidiaeth i ddysgwyr yn cael ei estyn i ystyried y trothwyon ar gyfer disgyblion sy’n teithio am ddim
Learner transport review extended to consider free travel limits for pupils
Mae adolygiad gan Lywodraeth Cymru o drafnidiaeth i ddysgwyr wedi cael ei estyn i ystyried y trothwyon pellter lle mae plant 4–16 mlwydd oed yn gymwys i deithio i’r ysgol am ddim.
I ddechrau roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar deithio gan ddysgwyr ôl-16, ond mae ei gwmpas wedi cael ei estyn yng ngoleuni’r materion sydd wedi cael eu codi yn ystod y misoedd diwethaf.
Yn ogystal â chynnwys y grŵp 4–16 mlwydd oed yn yr adolygiad, bydd yr adroddiad hefyd yn ystyried y trothwy pellter presennol.
Ar hyn o bryd mae gan ddisgyblion ysgol gynradd yr hawl i deithio i’r ysgol am ddim os ydynt yn byw dros dwy filltir o’u hysgol, ac mae gan ddisgyblion ysgol uwchradd yr hawl i deithio i’r ysgol am ddim os ydynt yn byw dros tair milltir o’u hysgol.
Bwriedir i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2021.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:
“Mae’n amlwg nad yw bob amser yn ymarferol nac yn ddiogel i blant gerdded neu feicio yn yr amgylchiadau presennol, felly rydyn ni’n chwilio am ateb sy’n seiliedig ar synnwyr cyffredin sy’n helpu ein pobl ifanc i deithio mewn modd diogel.
“Mae ein hagenda ehangach ar gyfer teithio llesol yn golygu ei bod yn anodd cael y cydbwysedd cywir rhwng annog rhagor o ddisgyblion i gerdded a beicio, a sicrhau eu bod yn parhau i fod â ffordd ddiogel o deithio i’r ysgol. Byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad mynd â’u plant i’r ysgol yn y car yw’r unig opsiwn sydd ar ôl i rieni.”
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Bydd ehangu cwmpas yr adolygiad yn sicrhau y gall rhagor o bobl fanteisio ar newidiadau posibl, Bydd y materion hyn, materion y mae teuluoedd wedi tynnu ein sylw atyn nhw, yn cael eu hystyried yn fanwl dros y misoedd nesaf.
“Byddwn ni’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y Comisiynydd Plant a Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod yr adolygiad hwn yn cyflawni gwelliannau ar gyfer disgyblion a theuluoedd.”